Cymedrolwr: Dili Minllyn
dave drych a ddywedodd: cymaint yn well ydi gweld rhain ar hyd y topiau na fuasai gweld gorsaf niwclear.
Basa Chernobyl ddim yn digwydd fama. Dydi gwynt ddim yn cynhyrchu fawr o ddim. Ma na botensial i egni llanw dwi'n meddwl, gobethio bydd hyn yn datblygu.. fel arall dwi angen trydan - a trydan niwclear fydd hynny ar hyn o bryd.dave drych a ddywedodd:Ond mae'n well gennai weld difrod aesthetig am 30 mlynedd o ganlyniad i gosod melinau gwynt na newyn ymbelydrol sy'n gallu roi cancr i fobl.
Pwy sy'n gallu profi y byddwn efo'r technoleg, arian, diogelwch rhyngwladol, adnoddau a'r cymhelliant i ddelio efo'r gwastraff ymhen dau cant blwyddyn? Dim ond angen edrych ar difrod o ganlyniad i'r damwain Chernobyl ac yn Three Mile Island.
Dydw i ddim chwaith yn credu gallwn dibynnu ar melinau gwynt ar eu pennau hunain. Ond nid niwclear ac glô yw'r ateb i hyn - rhaid buddsoddi a datblygu technegau eraill fel hydro, llanw, bio-thermal a solar. Ac gan bod Cymru efo gyfoeth o wynt a dwr, dylwn manteisio ar yr adnoddau yma sydd am ddim i fod mewn sefyllfa cryf.
Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai