Ynni niwclear yw'r unig ateb. Mae'n rhad ac mae digonedd i'w gael a dyw e'n gwneud dim drwg i'r amgylchedd. Tan bod ni'n gorfod delio gyda'r gwastraff. Mae angen buddsoddi miliynau, onid biliynau, mewn datblygu technoleg i greu egni o'r gwastraff. Dwi ddim yn wyddonydd, ond o'r ymchwil dwi di neud, mae'n nhw'n swnio'n optimisig fod e'n bosib.
Ma' melynau gwynt yn wastraff amser ac arian ac yn creu difrod amgylcheddol anferth. Dim 'greenhouse gases' a shit falle, ond reit rownd iddyn nhw, ma'r effeithie'n wael iawn.
O ran Chernobyl, wel, lol yw son amdano fe. Damwain mewn hen orsaf sofietaidd nad oedd yn cael ei gynnal yn iawn. Mae technoleg wedi symud mla'n cryn dipyn hyd yn oed ers hynny.
Niwclear ol ddy we. A eniwe, fi'n credu dylen ni adeiladu cymaint ohonyn nhw ag sy'n bosib yng nghymru. Rhai mawr, salw yn Abersoch a Cricieth a Sir Benfro a Aberystwyth, er mwyn cadw'r Saeson o 'ma. Pwy sydd ishe ty haf ar bwys gorsaf niwclear? Dim fi!