Tudalen 5 o 7

PostioPostiwyd: Mer 11 Mai 2005 8:41 pm
gan eifs
dwin meddwl ddulsa nhw ddefnyddio mwy o drydan hydro, does dim llawer yn cael ei effeithio efo hyn, Mae Llanberis yn enghraifft wych o sut mae'n gallu gweithio yn llwyddiannus

PostioPostiwyd: Mer 11 Mai 2005 11:11 pm
gan Dielw
eifs a ddywedodd:dwin meddwl ddulsa nhw ddefnyddio mwy o drydan hydro, does dim llawer yn cael ei effeithio efo hyn, Mae Llanberis yn enghraifft wych o sut mae'n gallu gweithio yn llwyddiannus
Mae Llanberis yn enghraifft wych o sut i ffitio gorsaf bwer tu fewn i mynydd heb neud llanast, ond ddim egni gwyrdd dio. Mae'n defnyddio mwy o egni na mae'n cynhyrchu.

Dwi'n dyfalu bod angen tua 15 fferm wynt maint Mochdre o leia i gynhyrchu'r egni mae Dinorwig yn ei ddefnyddio (ar ôl tynnu faint mae'n cynhyrchu)... Pan dach chi'n edrych arni felna, ma egni niwclear yn hanfodol os mai'r unig ddewis arall di egni gwynt.

PostioPostiwyd: Iau 12 Mai 2005 9:44 am
gan jimkillock
Dielw a ddywedodd:
eifs a ddywedodd:dwin meddwl ddulsa nhw ddefnyddio mwy o drydan hydro, does dim llawer yn cael ei effeithio efo hyn, Mae Llanberis yn enghraifft wych o sut mae'n gallu gweithio yn llwyddiannus
Mae Llanberis yn enghraifft wych o sut i ffitio gorsaf bwer tu fewn i mynydd heb neud llanast, ond ddim egni gwyrdd dio. Mae'n defnyddio mwy o egni na mae'n cynhyrchu.

Dwi'n dyfalu bod angen tua 15 fferm wynt maint Mochdre o leia i gynhyrchu'r egni mae Dinorwig yn ei ddefnyddio (ar ôl tynnu faint mae'n cynhyrchu)... Pan dach chi'n edrych arni felna, ma egni niwclear yn hanfodol os mai'r unig ddewis arall di egni gwynt.


Na! Isio sustem i gronfa ynni i ddefnyddio ar amseroedd eraill sydd ei eisiau: fel y sustem yn Ninorwic, adeiladwyd ar gyfer yr atomfa.

Mae'r 'economi hydrogen' yn ceisio croesi'r bwlch rhwng cynhyrchu trydan cynaliadwy a'r ffaith nad yw'n hollol consistent yn y fffordd mae'n cyhyrchu: dach chi'n cynhyrchu hydrogen efo ynni cynaliadwy ac wedyn defnyddion hydrogen mewn ceir, lorïau, ac pan fo angen, i gynhyrchu trydan.

PostioPostiwyd: Mer 25 Mai 2005 2:10 pm
gan Aranwr
Macsen a ddywedodd:Ai fi yw'r unig un sy'n eu ffeindio'n reit hardd?


Dwi yn hefyd. Fi all ffor ffermydd gwynt - ma'r dyfodol. Yn enwedig oddi ar yr arfordir lle ma' ddi'n chwythu fel y diawl. A sai'n rili deall y pobl sy'n dweud 'u bod nhw'n hyll a bydde fe'n ofnadw stico nhw yn bobman... meddyliwch, ma' 'na bylons trydan mawr hyll metel yn bron i bob cae ym Mhrydain - sneb yn cwyno amdanyn nhw achos prin iawn o bobl sydd hyd yn oed yn sylweddoli 'u bod nhw yno bellach. Dros amser fe fydde pobl yn dod i arfer a ffermydd gwynt. Ac, yn y cyfamser, bydde nhw'n darparu mwy o gyllid i'n ffermwyr ni. Arallgyfeirio cynaliadwy - dysges i 'na yn Daearyddiaeth :winc: . Jyst bo nhw ddim yn eu gosod nhw mewn ardaloedd real brydferth a thraddodiadol... e.e. Harbwr Dinbych y Pysgod neu rhywle fel 'na dwi'n meddwl bod ffermydd gwynt yn gret! :D

PostioPostiwyd: Mer 25 Mai 2005 4:27 pm
gan Tegwared ap Seion
Aranwr a ddywedodd:A sai'n rili deall y pobl sy'n dweud 'u bod nhw'n hyll a bydde fe'n ofnadw stico nhw yn bobman... meddyliwch, ma' 'na bylons trydan mawr hyll metel yn bron i bob cae ym Mhrydain - sneb yn cwyno amdanyn nhw achos prin iawn o bobl sydd hyd yn oed yn sylweddoli 'u bod nhw yno bellach. Dros amser fe fydde pobl yn dod i arfer a ffermydd gwynt.


ond tydi "peilons" ddim yn troi! ma'r tyrbinau gwynt yn tynnu'n sylw fi a wedi gneud i mi deimlo'n sal car wrth deithio heddiw fyd!

jimkillock a ddywedodd:yn erbyn (os yn synhwyrol) ynni niwcliar;

...

dwi'n dallt y rhesymeg yn erbyn rhai melinau gwynt ar y tir, ond rhywbeth mor bwysig yw osgoi newid hinsawdd


pam "os yn synhwyrol"?? dwi'n cytuno bod angen gwneud rhywbeth i osgoi newid hinsawdd, a dwi'n cymryd dy fod yn cyfeirio at gynhesu byd eang, felly beth sy'n fwy synhwyrol na chefnogi ynni niwclear?

basa'n beth gwych tasa ni'n gellu dibynnu ar ynni gwynt ac ynni adnewyddadwy ond, ar y funud, tydi'r dechnoleg angenrheidiol ddim ganddom ni. yn amal iawn bydd dad yn mynd i'w waith yn bora ag yn pasio melinnau gwynt am 7 - handi 7, lle bydd trwch o gymylau uwchben a dim un o'r melinau yn smud. lle ma'r holl ynni sydd ei angen i wneud paneidiau i'r holl bobol sydd yn codi, neu mynd am gawod ayyb yn mynd i ddod?

dwi'n mynd i wylio neighbours.

PostioPostiwyd: Sul 12 Meh 2005 10:30 pm
gan Cartwn 'head
Dielw a ddywedodd:Mae Llanberis yn enghraifft wych o sut i ffitio gorsaf bwer tu fewn i mynydd heb neud llanast, ond ddim egni gwyrdd dio. Mae'n defnyddio mwy o egni na mae'n cynhyrchu.



A bod yn fanwl gywir dim gorsaf bwer ydi teitl Llanberis neu Dinorwig ond "pumped storage scheme" ei unig bwrpas ydi cyflenwi egni ar gyfer yr adegau prysur o'r gormodedd sy'n cael ei gynhyrchu gan yr atomfeydd yn yr adegau tawel. Felly er ei bod yn defnyddio yni mae hynnu yn well na gwastraffu llawer mwy y buasai'n rhaid ei wneud heb rhyw ffordd i gronni'r yni nes fod ei angen.

PostioPostiwyd: Iau 16 Meh 2005 10:12 am
gan Realydd

PostioPostiwyd: Iau 16 Meh 2005 12:06 pm
gan bartiddu
Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 16 Meh 2005 12:16 pm
gan Iesu Nicky Grist
Ffacin Cynulliad. Ma pob ffycyr yn ca'l £40k +.

Tan8 yn bloody good move. DA IAWN CHI AMs. Gwnewch yn siwr o ddifetha unrhyw goedwig naturiol sy ar ol 'ma. Coedwig Brechfa please. Fi'n casau nhw draw ffor 'na 'da'i "clean air". Bastards hyll. :crio:

PostioPostiwyd: Sad 02 Gor 2005 9:39 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Ydach chi'n sylweddoli sawl melin wynt sydd ei hangen i gynhyrchu'r un faint o drydan a phwerdy niwclear?