Odd Jeremy Clarkson yn cyflwyno rhaglen deledu ar yr injan jet nos fawrth (dim bo fi'n lico'r twat, jyst...digwydd gweld bit o fe nes i ),
beth bynnag odd e'n esbonio dylanwad yr injan jet ar y byd.
Wedodd e, yn dilyn 9/11 doedd dim awyrennau yn cael hedfan dros America am y tridiau dilynol. Felly roedd lot fowr o awyrennau ar y ddaear yn segur. Yn y tridiau hynny cododd tymheredd y ddaear yn sytod y dydd o 1gradd a disgyn gyda'r nos o un gradd.
Roedd hyn am fod awyrennau jet yn cynhyrchu cymylau ffug yn yr awyr oedd yn rhwystro gwres rhag cyrraedd y ddaear ac yn y blaen.
Ond, diawl, os yw hyn yn wir - mae'n rhyfeddol ac yn peri ofn