Y dydd o'r blaen anfonnwyd pamffledyn diddorol imi gan ffrind dyddiau ysgol sydd bellach wedi ymgartrefu yn Llanfrothen ger Penrhyndeudraeth. Sôn oedd y pamffled fel yr oedd Gwalch y Pysgod a'i gymar wedi dewis nythu ger Porthmadog.
Mae'r Gweilch yn ymweld â Chymru bob blwyddyn wrth ymfudo i neu o Affrica ond nid ydynt erioed wedi nythu yng Nghymru o'r blaen.
Darganfuwyd eu nyth ger Nantmor, a mawr oedd y diddordeb. Gwnaethpwyd popeth i ddiogelu'r nyth ond yn anffodus trodd y gobeithion yn siom. Yn ystod tywydd drwg ym mis Mehefin disgynnodd rhan o'r nyth ac fe gollwyd y ddau gyw bach ynddo.
Mae'r ddau Walch er hynny yn parhau yn yr ardal. Hei lwc iddyn nhw a'u teulu newydd pan ddychwel y gwanwyn unwaith eto.
Lôn Groes