Tudalen 1 o 1

Tydi adar yn wych!

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2004 8:45 pm
gan Lôn Groes
Y dydd o'r blaen anfonnwyd pamffledyn diddorol imi gan ffrind dyddiau ysgol sydd bellach wedi ymgartrefu yn Llanfrothen ger Penrhyndeudraeth. Sôn oedd y pamffled fel yr oedd Gwalch y Pysgod a'i gymar wedi dewis nythu ger Porthmadog.
Mae'r Gweilch yn ymweld â Chymru bob blwyddyn wrth ymfudo i neu o Affrica ond nid ydynt erioed wedi nythu yng Nghymru o'r blaen.
Darganfuwyd eu nyth ger Nantmor, a mawr oedd y diddordeb. Gwnaethpwyd popeth i ddiogelu'r nyth ond yn anffodus trodd y gobeithion yn siom. Yn ystod tywydd drwg ym mis Mehefin disgynnodd rhan o'r nyth ac fe gollwyd y ddau gyw bach ynddo.
Mae'r ddau Walch er hynny yn parhau yn yr ardal. Hei lwc iddyn nhw a'u teulu newydd pan ddychwel y gwanwyn unwaith eto.

Lôn Groes :(

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 8:23 am
gan Owain Llwyd
Ond mae'n ymddangos nad ydi hi'n ddu i gyd ar weilch y pysgod yng Nghymru. Gweler hwn.

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 5:17 pm
gan Lôn Groes
Diolch Owain Llwyd; a diolch i Dduw. Wyddwn i ddim am y newyddion hapus yma. Boed i gyfrinachau fel hyn barhau! :D
Rwy'n eitha ffodus pen yma gan fy mod yn cymryd eirth a bleiddiaid, llewod mynydd a cheirw yn ganiataol. O ia, morfilod ac eryrod a gweilch hefyd. Er hynny mae nifer mawr o bobl yma yn sylweddoli mor bwysig yw parchu bywyd gwyllt o bob math. A mawr yw ein cyfrifoldeb tuag at greaduriaid natur.Gwae i ni ei esgeuluso.

Lôn Groes.

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 8:59 am
gan Dili Minllyn

PostioPostiwyd: Sad 19 Mai 2007 2:27 pm
gan Lôn Groes
Dili Minllyn a ddywedodd:Rhagor o newyddion da.


Diolch yn fawr am : Rhagor o newyddion da. Oes 'na webcam ar gael?
Yr eryrod penfoel ar lannau'r Tawelfor yn anfon eu llongyfarchiadau. Hwythau hefyd yn brysur nythu. :)