TVR's neu Aston Martins?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

TVR's neu Aston Martins?

Postiogan Ramirez » Mer 14 Mai 2003 10:57 pm

ma nw'n fawr
ma nw'n ffast
ma nw'n beryg
ma nw'n llygru

ond ma nw'n hwyl :winc:

ar nodyn mwy difrifol. oesna ddyfodol i'r car trydan go iawn??
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan nicdafis » Iau 15 Mai 2003 7:03 am

Nid tra bod digon o wledydd gyda olew i ni gymryd drosodd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 15 Mai 2003 8:06 am

Dim rili. Mae'r bygars yn uffernol o ddrud ar y funud. Ella un diwrnod yn y dyfodol pell. Ond mae Nic yn iawn - tra fod olew 'sneb yn poeni amdano.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Alys » Iau 15 Mai 2003 8:14 am

Problem hefo ceir trydan ydi does neb yn eu cymryd o ddifri. Pob tro maen nhw'n cael mensh ti'n gweld llun o'r hen foi be-di'r-enw hefo'i C5. :rolio: Sdim rheswm pam na ddylen nhw edrych fel unrhyw car arall. Cael gorsafoedd newid batri yn lle llenwi petrol ayb ayb. Dim problem. Cyflymder? Gridlocks neu tractorau/carafanau fel y mae felly dim newid yno.
Ond ia, sneb yn meddwl tra nad oes "rhaid".
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Cardi Bach » Iau 15 Mai 2003 8:36 am

Mae'n debyg fod yna gwmni o Ffrainc wedi cynllunio car fyddai'n gallu rhedeg yn effeithlon ac yn gyson ar 'hydrogen' fyddai'n gallu cael ei gynhyrchu ar lefel anferth am gost bychan iawn. Yn anffodus roedd y cwmniau olew mawr a cheir fel Ford, nad oedd am wario arian mawr yn buddsoddi yn y dechnoleg yn wreiddiol, wedi rhoi stop ar y cynllun (llwgrwobrwyo'r llywodraeth am wn i) oedd yn golygu nad ydyw'n cael ei ddatblygu.
Wy'm yn gwbod os odi hyn yn wir. Os rhywun arall gyda fwy o wybodeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan jimkillock » Iau 15 Mai 2003 10:35 am

mae syniad hydrogen yn un pwysig i geir trydan, cardibach. Dwi'm yn gwbod manylion am y car penodol, ond fel dwi'n dallt mae yna ddiswyl y bydd yr 'economi hydrogen' yn amnewid yr 'economi olew' yn y dyfodol.

H + 2O = H2O (Dŵr) + llawer o ynni (bang!)

Yr unig problemau efo 'celloedd hydrogen' ydy

    (i) sut i greu yr hydrogen - y peth hawdd yw defnyddio glo neu olew; mae'n bosib defnyddio trydan o ffynhonellau cynaliadwy, ond mae'n gymharol ddrud ar hyn o bryd
    (ii) mae hanner yr ynni sy'n cael ei defnyddio gan gar yn cael ei defnyddio yn ystod cynhyrchu'r car
    (ii) mae'n rhaid creu sustem i ail-lewni'r celloedd tu fewn gorsafoedd petrol, ac mae hynna'n ddrud.

Yn y cyfamser, beth am bio-diesel, sef ail-gylchu olew coginio o siopa chips? (mae'r dreth yn llai hefyd - 26c y litr nid 46c)

http://www.biodiesel.org/

http://www.goatindustries.co.uk/goatfuels.html
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Geraint » Iau 15 Mai 2003 3:06 pm

Ma na car yn gwaith, Toyota Prius, sydd yn hanner trydan, hanner petrol, a mae'n mynd yn dda. Dwi'n neud miloedd o filltiroedd pob blwyddyn ma rhaid mi gyfadde, bydde fy ngwaith yn amhosib heb dreifio, ac mae trafnidiaeth cyhoeddus yn warthus. Dwi yn poeni'n fawr am yr amgylchedd, y peth yw, dwi wrth fy modd yn dreifio fy'n vtr :D , a mae'n hollol hunanol ond tan i ceir trydan ayb gallu perfformio yn dda, fydd hi'n anodd iawn werthi'r syniad i pobl sy'n mwynhau'r profiad gyrru. Mae na confflict o egwyddorion yn mynd mlaen yn fy mhen i :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan ceribethlem » Iau 15 Mai 2003 3:35 pm

H + 2O = H2O (Dŵr) + llawer o ynni (bang!)


Fyddet ti byth yn pasio dy Gemeg yn balansio hafaliad fel 'na :winc:

2H2 (sef 2 foleciwl o nwy Hydrogen) + O2 (un moleciwl o nwy Ocsigen) = 2H20 (dau foleciwl o ddwr) + bang yw'r hafaliad cywir.

(i) sut i greu yr hydrogen - y peth hawdd yw defnyddio glo neu olew; mae'n bosib defnyddio trydan o ffynhonellau cynaliadwy, ond mae'n gymharol ddrud ar hyn o bryd


Y syniad gwreiddiol tu ol i'r car Hydrogen yw ei fod yn gweithio mewn modd tebyg i gar petrol. Mae Hydrogen (fel petrol) yn ffrwydrol, ac felly fe all (yn ddmacaniaethol) yrru car yn yr un modd ac y mae injan petrol yn ei wneud.

Soniaist am y broblem "Sut i Greu Hydrogen" yn ol y ddamcaniaeth wnaeth Cardi son amdani, mae'r car yn troi'r hafaliad uchod yn ol, felly fe fyddai'r dwr yn gael ei hollti gan greu Hydrogen ac Ocsigen.
Mae'n peth gymharol hawdd i'w wneud gyda ychydig o drydan yn mynd drwy electrodes yn y dwr.
Pan ddatblygwyd y syniad yma gyntaf, fe unodd yr holl gwmniau olew a phrynu'r patent amdani am fwy na jyst biliynau.
Fe fydd car Hydrogen effeithiol yn rhedeg heb dannwydd am byth, dim ond wear and tear cyffredin fydd ar y car (bydd angen olew fel lubricant hefyd).
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan huwwaters » Iau 15 Mai 2003 5:11 pm

Dwi di clywed ma 'fuel cells' sef hollti cemegion a wrth wneud hynny fydd egni'n cael ei allyrru.

Yr unig ffordd dwi'n meddwl y bydd hyn yn digwydd yw trwy'r testun 'Egnieg'. Sef, wrth hollti 2 elfen oddi wrth eu gilydd a wedyn cael elfen i fondio efo elfen arall, bydd KJ yn gallu bod yn sbar sef gwres. Dyma be sy'n penderfynnu os yw adwaith yn un ecsothermig neu endothermig. Cwbl llai feddwl o yw yn hytrach na egni dros ben, fydd na electronau dros ben. Cerrynt trydanol yw llif o electronau.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan ceribethlem » Iau 15 Mai 2003 10:06 pm

Dwi di clywed ma 'fuel cells' sef hollti cemegion a wrth wneud hynny fydd egni'n cael ei allyrru.

Yr unig ffordd dwi'n meddwl y bydd hyn yn digwydd yw trwy'r testun 'Egnieg'. Sef, wrth hollti 2 elfen oddi wrth eu gilydd a wedyn cael elfen i fondio efo elfen arall, bydd KJ yn gallu bod yn sbar sef gwres. Dyma be sy'n penderfynnu os yw adwaith yn un ecsothermig neu endothermig. Cwbl llai feddwl o yw yn hytrach na egni dros ben, fydd na electronau dros ben. Cerrynt trydanol yw llif o electronau.


Os wyt ti'n hollti un elfen wrth un arall ac yn bondio un arall wrthi hi, yna nid electronau fydd yn sbar ond yr elfen a holltwyd i ffwrdd. Fe fydd yr holl electronau yn bodoli yn eu orbits arferol (ac yn yn bondio). Pe bai electronau rhydd, yna fe fydd yr elfen a holltwyd nail ai yn ion ac yn gorfod bondio wrth rhywbeth, neu yn free radical sy'n hynod o beryglus.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron