Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 16 Mai 2003 12:09 am
gan Corpsyn
"TVR's neu Aston Martins?"

TVR unrhywbryd!

Mi fydd na ddyfodol mawr i gar trydan, Ond mond pan fydd rhaid bod! tan hynny ddoith o byth yn beth gor boblogaidd.

Dwi jest yn gobeithio fydd olew yn para yn ddigon hir i fi safio digon i gal TVR yn hun!

PostioPostiwyd: Gwe 16 Mai 2003 9:56 am
gan Dyl mei
cafodd yr Injan Diesel i dyfeisio i rhedeg ar vegdable oil.
neith unrhyw car nawr rhedeg arno.heb dim effaith drwg.
ac dwin meddwl maen Gyfreithlon hefyd.
dwin gobod hyn oherwydd oedd diesel heb cael ei dyfeisio
tan rhai blynyddoedd ar ol yr injan.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Mai 2003 10:56 am
gan Cardi Bach
Dyl mei a ddywedodd:ac dwin meddwl maen Gyfreithlon hefyd.


Wy ddim yn credu fod e'n gyfreithlon - na pam ath yr holl strabs 'na yn Llanelli a Abertawe mewn i drafferth, achos fod treth anferthol ar Ddisel a Phetrol ond dim ond TAW normal sydd ar olew o lysiau. Serch hynny petai rhywun yn mynd i'r swyddfa dreth ac yn talu'r 'duty' ar dannwydd (26c y Litr) a chael 'receipt' amdano, yna mi fyddai'n dal yn rhatach na phrynnu disel o garej gan na fydd y cwmniau olew mawr yn cymryd yr arian. Byddai'n gyfreithiol wedyn. Erthygl gwych am hwn yn y Guardian Mis Ionawr a bydde ni'n argymell pawb a diddordeb iw ddarllen.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Mai 2003 1:44 pm
gan nicdafis
Mae hynny yn wych, diolch yn fawr. O'n i'n lico:
When one customer came in and filled a trolley to the brim with plastic containers of the thin, urine-coloured liquid, the checkout operator barely gave him a second glance. "We just thought they were doing a lot of frying," he says. "You have to remember, healthy eating has not hit Swansea in a big way."

PostioPostiwyd: Mer 21 Mai 2003 10:57 pm
gan Corpsyn
Dyfyniad a ddywedodd:"I get the oil for nothing and pay 26p a litre in duty on it, which still makes it a lot cheaper than diesel at the pumps,"


Ma hyn yn ddiddorol iawn. Dwn im os fyswn nin gallu cymeryd y risc o roi oil chips yn y car! fysa chi??

PostioPostiwyd: Sul 25 Mai 2003 4:06 pm
gan Ramirez
geni ffansi trio, mond car mam dio...

PostioPostiwyd: Sad 31 Mai 2003 11:47 pm
gan Corpsyn
Gad mi wbod os dion gweithio Ramirez, wrach fydd hi werth investio mewn Diesel bach rhad os dion gweithio.

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2003 2:37 pm
gan Cardi Bach
Delwedd

gweud lot mwy na llith hir :!: