Jim
Beth ti'n meddwl yw'r ffyrdd gorau i fyw bywyd "eco-friendly" ac anti-global? Dwi'm yn son am optio allan yn gyfangwbl o gyfalafiaeth, ond yn hytrach pethau bob-dydd galle chi wneud yn wahanol/well.
Hwyl
Cymedrolwr: Dili Minllyn
ceribethlem a ddywedodd:Os byddwn ... yn edrych ar ffyrdd eraill megis melinau gwynt rhaid gofyn a oes llygredd i'w cael gan y rhain.
Na yw un ateb, ac yn wir o ran nwyon gwenwynig a pheryglus, yna nacoes, does dim llygredd. Ond mae nifer o'r cwynion am y melinau gwynt yma yn son am lygredd aesthetig, sef llygredd gweladwy (maent yn bethau salw) a llygredd sain (maent yn creu llawer o swn).
ceribethlem a ddywedodd:Mae egni tonnau yn goresgyn yn broblem yma trwy cael eu lleoli yn y mor, ond beth fydd effaith hyn ar yr ecosystem lleol?
Mae'r gwir broblem yn un ni ellir ei ddatrys, rydym ni fel pobl, yn effeithio (ac yn dirywio) ein amgylchedd bob tro rydym yn gwneud unrhywbeth.
jim killock a ddywedodd:Mae Cymru dal i allforio drydan, cyhrychwyd gan orsafoedd nwy, niwcliar a glo. I fy meddwl i, os dan ni'n creu ynni glân, dylem gael gwared o'r ynni sy'n llygreddu, yn hytrach na'i allforio.
(Gydal llaw, wyt ti'n dysgu gwyddoneg ceribethlem, neu gofio mwy na fi o'r ysgol?!)
Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai