Ffyrdd practical i fod yn "eco-friendly"

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan huwwaters » Sul 01 Meh 2003 11:33 am

Wel ailgylchu yw un o'r atebion gorau.

Papur, dwi di clwed bod nhw'n cael trafferth ailgylchu hwn, a beth bynnag ma coed yn dod o coedwigoedd cynhaliadwy.

Y ffordd ymlen yw cael pawb i wneud stwff allan o metel, a'i ailgylchu. Cwbl sydd angen efo metel yw ei wahanu o gwahanol fathau, ei doddi a'i ailshapio.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Corpsyn » Sul 01 Meh 2003 11:57 am

dwn im amdana chdi huw, ond dwin ffeindio metal yn anodd iawn i 'sgwennu ar. :winc:
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan ceribethlem » Sul 01 Meh 2003 1:20 pm

Y ffordd ymlen yw cael pawb i wneud stwff allan o metel, a'i ailgylchu. Cwbl sydd angen efo metel yw ei wahanu o gwahanol fathau, ei doddi a'i ailshapio.


Syniad da yn y bon, ond braiidd yn anymarferol, wedi'r cyfan byddai mynd i'r siop i gael peint o laeth, a'r potel hynny allan o fetel yn annodd.
Hefyd mae toddi ac ailffurfio metel yn broses drud, oherwydd fydd angen cael gwared o'r slag sef yr ocsidau sy'n ffurfio ar y metel, neu fe fydd problemau gyda'r siap newydd.

Mae digon o ffyrdd o ailgylchu fodd bynnag. Poteli gwydr, gyda arian yn ol efallai (fel gwnaeth Corona gynt), neu poteli allan o blastig y gellir ei ail-gylchu, mae'r fath plastig yn bodoli. Bocsys ar gyfer poteli, fel sy'n bodoli nawr gyda llaeth a sydd oren.

Mae angen i'r Llywodraeth gymryd cam blaenllaw i hybu ailgylchu. Yn anffodus mae'r mwyafrif o bobl yn rhy ddiog i'w wneud.
Un modd posib yw trefnu fod bagiau ailgylchu yn cael eu casglu am ddim, tra bod dirwy yn cael ei gosod ar mwy na nifer cyfyngiedig o fagiau sbwriel. Mae hyn wedi cael ei drafod gyda nifer o wleidyddion yn barod.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 06 Meh 2003 10:28 pm

Y broblem yw ma rhan fwya o bobl rhy ddiog i fynd allan oi ffordd i fod yn eco ffrendli :wps:

Run peth a brwydr yr iaith, di mwyafrif o bobl ddim yn bothered i neud yr ymdrech er fod y mwyafrif yn cefnogi'r frwydyr.

peth arall tebyg ydyr gelyn sef cwmniau/trefn gyfalafol. Oherwydd fod pobol yn ddigof rhaid cal deddfau ar gwniau cyfalafol bydd yn gwneud hi'n haws i bobl fyw yn eco ffrendli.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cardi Bach » Mer 11 Meh 2003 10:37 am

Hwn yn hir - Ond werth ei ddarllen os ydych o ddifri:
:winc:

Mae’r New Internationalist wedi cyhoeddi rhai camau rhwydd y gall pobl gymryd i helpu i daclo ‘global warming’ a lleihau CO2 emissions.

Mi wna i dreial eu cyfieithu er eich bydd:

Dechrau Rhwydd.
Rhan 1 :saeth:

1. Amlwg. Trowch goleuadau i ffwrdd pan yn gadael ystafell, a throwch rheiddiaduron i ffwrdd mewn ystafelloedd nad sy’n cael eu defnyddio.
2. Coginiwch gyda’r caeadau ar y sospenni, a defnyddiwch osodiadau economi. Os ferwch chi’r dwr sydd ei angen i wneud diodydd twym yn unig (yn lle rhoi mwy na beth sydd ei angen yn y tegell) byddwch wedi arbed digon mewn wythnos i oleio’ch cartref am ddiwrnod cyfan.
3. Gosodwch eich peiriannau golchi dillad a llestri ar 40ºC yn lle 60ºC – bydd hyn yn defnyddio trydydd yn llai o drydan. Defnyddiwch lein ddillad ac nid ‘tymbyl dreier’.
4. Trowch y thermostat i lawr – bydd hyd yn oed 1ºC yn llai yn gallu arbed 10% ar eich bil gwres. Mae cadw eich ffrij mond 1ºC yn gynhesach yn arbed 50kg o nwyon niweidiol y flwyddyn.
5. Trowch eich teledu, stereo, DVD ayb i ffwrdd yn y prif bwynt pwer. Mae defnyddio’r ‘remote’ neu eu cadw nhw ar ‘standby’ yn defnyddio rhwng 10% a 60% yn fwy o egni.

Gwnewch Ymdrech.
Rhan 2 :saeth:

6. Siopwch yn lleol, a bwytewch mwy o blanhigion. Mae ffermio anifeiliaid dwys yn cynhyrchu mwy o methane. Eidon yw’r gwaethaf – mae cynhyrchu 1kg o eidon yn cynhyrchu ½ kg o methane (methane yn gydracdd a 10kg o CO2. Prynnwch cynnyrch organig lleol lle’r yn bosib.
7. Newidiwch eich bylbs golau am rai arbed egni ‘Compact Fluorescent’ – mae bylbiau CF yn defnyddio 1/5 y trydan ac yn para deg gwaith yn hyrrach ac yn arbed hanner tunnel o CO2 yn ei fodolaeth.
8. Cerddwch, defnyddiwch y beic, trafnidiaeth gyhoeddus neu rhannu lifftiau lle’r yn bosib. Torrwch i lawr ar eich deunydd o awyrennau. Os defnyddio car gofalwch amdano – gwnewch yn siwr fod digon o aer yn y teiars – bydd hyn yn arbed hyd tunnell o nwyau niweidiol y flwyddyn.
9. Newidiwch i gael eich trydan o gwmniau sy’n defnyddio egni adnewyddol bydd yn torri eich llygredd CO2 hyd at 1.42 tunnell y flwyddyn. Nid yw’n fawr drytach chwaith. Ond torrwch eich defnydd o drydan hefyd gan nad oes digon o egni adnewyddol yn cael ei greu ar y foment i gwrdd a’r galw.
10. Rhaid lleuhau ar y defnydd o bapur – defnyddiwch apur wedi ei ailgylchu. Prynnwch bren o gwmniau sy’n ei gael o fforestydd cynaladwy. Prynnwch bethau gyda’r lleiaf o ‘packaging’.

Cam YmhellachRhan 3 :saeth:

11. Plannwch goed newydd, a gofalwch amdanyn nhw.
12. Cynnyddwch yr insiwleiddio yn ich to ac o amgylch y ffenestri a thanc dwr. Rhowch ffoil alwminiwm tu ol i’ch rheiddiaduron (ochr ‘mwll’ wrth y wal).
13. Trosglwyddwch unrhyw fuddsoddiadau sydd ganddoch o gwmniau tannwydd ffosil i gwmniau tannwydd adnewyddol, neu gwmniau sydd a chanllawiau moesol. Defnyddiwch eich hawliau fel cyfranddaliadwyr a mynychwch y cyfarfodydd blynyddol a gosod cynnigion neu bleidleisio o blaid cynnigion sy’n mynnu lleihau llygredd.
14. Boicotiwch gynnyrch cwmniau megis ExxonMobil (Esso) sydd yn fwriadol rwystro unrhyw ymdrech i newid i ynni adnewyddol.
15. Byddwch yn wleidyddol! Rhowch bwysau ar eich cynrychiolwyr etholedig i bleidleisio am gynnigion sy’n galw am leihau llygredd. Gweithredwch mewn protestiadau.

Byddwch o ddifriRhan 4 :saeth:

16. Defnyddiwch ‘double glazing’ ar eich ffenestri.
17. Prynnwch y cynnyrch sy’n arbed y mwyaf o egni. Mae ffrij sy’n ‘energy efficient’ yn defnyddio llai na hanner pwer hen fodel.
18. Solar: Prynnwch gynhesydd dwr solar; panelu solar.
19. Os oes ganndoch wres canolog ac mae’n costio gormod i gael solar, adewyddwch eich hen foiler gyda ‘condenser boiler’. Mae’r rhain yn troi 85% o dannwydd i wres o’i gymharu a 65% gyda teip cyffredin.
20. Os oes rhaid cael car mynnwch y math gwyrddaf. Bydd ceir tannwydd hydrogen gyda ‘zero emissio’ ar y farchnad cyn hir. Mae sawl math ‘hybrid electric/petrol’ ar gael nawr (Toyota Prius, Honda Insight).

Am fwy o wybodaith trafnidiaeth ymwelwch a:
http://www.chooseclimate.org/flying
http://www.greencars.comhttp://www.fueleconomy.govhttp://www.cleancarcampaign.org

Energy Efficiency Advice Centres: 0800 512 012
The UK Energy Saving Trust am grantiau: http://www.est.org.uk
Energy Efficiency Installers: 0845 727 7200
Mae Friends of the Earth yn rhoi cyngor am egni glan http://www.foe.uk/campaigns/climate
Unit Energy yw’r gorau: 0845 610 1401, neu http://www.unit-e.co.uk
Ac mae gan Greenpeace Juice: 0800 316 2610

A llu o rai eraill bydda i’n postio wedyn.

Petai pob un ohonom yma yn ymrwymo i ychydig o'r rhain byddwn yn gwneud gwahaniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan huwwaters » Mer 11 Meh 2003 12:12 pm

Ma buddsoddi mewn ynysyddion gwres yn costio mwy na buas hi wrth wastraffu egni yn y tymor byr, tua 10 mlynedd, sydd weithiau'n gyfnod o fyw yn y ty i rhai bobl.

Mae hwn yn dod o'r ymchwil a wnaethais ar gyfer prosiect TGAU.

Mae hwn i gyd efo rhywbeth a elwir yn 'Passive Solar Design' a 'Solar Gain', sef gwneud defnydd o egni'r haul.

Gellir wneud hyn trwy cael eich ffenestri ar ongl o tua 45º yn hytrach na'r paralel, neu gosod ffenestri yn lle teils ar ben to. Triwch gael y ffenestri yma yn gwynebu tua'r de, gan yn hemisffer y gogledd mae'r rhanfwyaf o haul yn dwad o'r de.

Mae hyn yn gweithio am fod osgled pelydrau UV yn fwy cul na osled pelydrau gwres. Felly mae mwy o belydrau UV yn cael eu dal, na sydd yna o pelydrau gwres yn dianc gad ddwad â 'Solar Gain'.

Mae'r system yma'n gweithio try gydol y flwyddyn, oherwydd ei fod yn gweithio gyda ond yr haul allan. Yn fy nhy, mae hi'n mynd yn 'sweatshop' yn yr haf, ac yn y gaeaf yr ystafell haul (conservatory) yn ddigon cynnes i istedd ynddo mewn crys-t a shorts.

Os chishio mwy o wybodaeth technegol, dwi efo gwybodaeth manwl ar sut i leoli'r ffenestri.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan nicdafis » Mer 11 Meh 2003 12:25 pm

Diolch am hyn Cardi Bach. Llawer o stwff diddorol 'na.

Ynglyn ag ail-gylchu, cofiwch bod ail-ddefnyddio (fel gyda photeli llaeth a pop Corona gynt, fel oedd rhywun yn sôn) yn mil well yn nhermau egni, ac yn rhai gwledydd Ewrop mae'n anghyfreithlon i werthu diod (a bwyd?) mewn llestri sy ddim yn <b>ddychweladwy</b>.

I ryw rhaddau mae heip o gwmpas ail-gylchu yn con-trick. Dw i'n cofio gweld (yng Ngholeg Ceredigion dw i'n meddwl) bin ail-gylchu tuniau drws nesa i'r peiriant Coke. Os mai prif ganlyniad ail-gylchu yw wneud pobl yn teimlo yn well am brynu pethau di-angen, mae e'n gwaethygu'r sefyllfa.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chwadan » Mer 11 Meh 2003 12:45 pm

nicdafis a ddywedodd:I ryw rhaddau mae heip o gwmpas ail-gylchu yn con-trick. Dw i'n cofio gweld (yng Ngholeg Ceredigion dw i'n meddwl) bin ail-gylchu tuniau drws nesa i'r peiriant Coke. Os mai prif ganlyniad ail-gylchu yw wneud pobl yn teimlo yn well am brynu pethau di-angen, mae e'n gwaethygu'r sefyllfa.

Felly mi fasa'n well gen ti weld y tun Coke ar lawr yn llygru'r amgylchedd am y ganrif nesa? Y gwir amdani ydi fod gan bobol ddigon o "disposable income" i brynu tuniau Coke ac felly ma cal bin ailgylchu drws nesa i'r peiriant yn beth da - fedri di ddim stopio pobol rhag prynu diod mewn tun ond mi fedri di neud rywbeth i leddfu'r difrod mae'r metal yn ei neud i'r amgylchedd.

Os rhywbeth, mi fasa gweld bin ailgylchu drws nesa i'r peiriant yn gneud i fi feddwl eto cyn prynu Coke achos mi fasa fo'n fy atgoffa am y niwed mae tuniau gwag yn ei neud.

O be wela i, cynwysyddion diodydd ydi un o'r mathau o sbwriel sydd i'w gweld amlaf felly mi fasa dod â'r hen system Corona yn ôl yn syniad da - mi fedrai weld y peth yn gweithio heddiw hyd yn oed. Oedd dad yn arfer mynd rownd cefn Woolworths i ddwyn y boteli gwag oedd wedi eu casglu yno eisioes ac yn mynd â nhw rownd i flaen y siop i gael pres amdanyn nhw :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan nicdafis » Mer 11 Meh 2003 2:19 pm

Chwadan a ddywedodd:Felly mi fasa'n well gen ti weld y tun Coke ar lawr yn llygru'r amgylchedd am y ganrif nesa?


Wel, na fyddai, yn amlwg.

Chwadan a ddywedodd:Y gwir amdani ydi fod gan bobol ddigon o "disposable income" i brynu tuniau Coke ac felly ma cal bin ailgylchu drws nesa i'r peiriant yn beth da - fedri di ddim stopio pobol rhag prynu diod mewn tun ond mi fedri di neud rywbeth i leddfu'r difrod mae'r metal yn ei neud i'r amgylchedd.


Pam mae peiriant Coke mewn coleg/ysgol yn y lle cyntaf? Ydy Coca Cola yn dy helpu di dysgu? Nacdi, wir, mae peiriant 'na achos bod eich colegau mor brin o arian ac/neu agweddau byddai'n well 'da nhw weld eu myfyrwyr wastraffu eu harian ar dwr, siwgr a chemegau carsinogenig, nag iddyn nhw yfed dwr pur Ceredigon.

Chwadan a ddywedodd:Os rhywbeth, mi fasa gweld bin ailgylchu drws nesa i'r peiriant yn gneud i fi feddwl eto cyn prynu Coke achos mi fasa fo'n fy atgoffa am y niwed mae tuniau gwag yn ei neud.


Dw i'n falch dy fod di'n ddigon call i weld pethau trwyddo i'w canlyniad rhesymegol, ond mae'n amlwg bod y cwmniau diodau byrlymog yn defnyddio'r cysyniad o "tuniau ailgylchadwy" i werthu mwy o wenwyn i blant (ac i oedolion sy'n meddwl fel plant).

Chwadan a ddywedodd:O be wela i, cynwysyddion diodydd ydi un o'r mathau o sbwriel sydd i'w gweld amlaf...


Sori, Chwadan, ond ti'n colli'r pwynt. Dw i'n derbyn nid yw "sbwriel" yn beth da, ond nid gweddillion yr holl system 'ma sy'n wneud y niwed ond y proses diwydiannol sy'n eu creu (neu eu hail-greu). Nid yw tun Coke gwag yn cyfrannu lot at cynhesu byd-eang, ond mae proses o gloddio'r alwminiwm, ei buro, ei symud rownd y byd, ei wneud mewn tuniau, i lenwi gyda gwenwyn melys, a'i ddosbarthu i archfarchnadau ac ysgolion y byd i gyd yn defnyddio tanwydd, sydd yn cyfrannu at dwymo'r byd.

Wrth gwrs, os wyt ti'n ailgylchu'r tuniau, ti'n torri mas y rhan gyntaf o'r proses, sef y cloddio. Ond mae rhaid i rywun casglu'r tuniau, eu hailgylchu (proses diwydiannol sy'n creu bron cymaint o lygredd â chreu'r tuniau gwreiddiol) ac wedyn llenwi, dosbarthu ac yn y blaen.

Felly, mae ailgylchu yn beth da dim ond wrth gymharu â pheidio ailgylchu ond dal i brynu. Wrth gymharu â pheidio prynu pethau di-angen yn y lle cyntaf, dyw hi ddim yn dda o gwbl. Mae'n lledfu y cydwybod, dyna i gyd. Mae'n fel dweud bod torri dy goes yn lwcus achos dy fod di ddim wedi torri dy goes arall hefyd ;-)

Chwadan a ddywedodd:...felly mi fasa dod â'r hen system Corona yn ôl yn syniad da - mi fedrai weld y peth yn gweithio heddiw hyd yn oed. Oedd dad yn arfer mynd rownd cefn Woolworths i ddwyn y boteli gwag oedd wedi eu casglu yno eisioes ac yn mynd â nhw rownd i flaen y siop i gael pres amdanyn nhw :D


Ro'n i'n arfer wneud hynny. Nawr dw i'n teimlo yn hen <i>ac</i> yn euog.

Sori am bregethu. Nid at Chwadan mae hyn wedi anelu'n wir, ond ata i fy hun. Fel dw i wedi sôn sawl gwaith, dw i'n trial colli pwysau ar hyn o bryd, ac yn yr wythnosau diwetha dw i wedi bod yn prynu lot o Diet Coke, o leia un can y dydd, weithiau dau neu dri. Does dim esgus yn y byd dros wneud hyn, a fydd trip bach i'r lle ailgylchu tu ôl i Tesco ddim yn wneud e'n well. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chwadan » Mer 11 Meh 2003 2:40 pm

nicdafis a ddywedodd:Felly, mae ailgylchu yn beth da dim ond wrth gymharu â pheidio ailgylchu ond dal i brynu. Wrth gymharu â pheidio prynu pethau di-angen yn y lle cyntaf, dyw hi ddim yn dda o gwbl. Mae'n lledfu y cydwybod, dyna i gyd. Mae'n fel dweud bod torri dy goes yn lwcus achos dy fod di ddim wedi torri dy goes arall hefyd

Cytuno - ond y pwynt on i'n drio neud oedd ei bod hi'n anodd stopio pobol rhag prynu tuniau Coke fel ti'n gneud dy hun. Mae pobol yn prynu ac yn mynd i brynu tuniau nes mae Coca Cola yn stopio eu defnyddio nhw fel cynwysyddion. Felly dydi rhoi bin ailgylchu drws nesa i'r peiriant ddim yn gneud dim drwg achos ei fod o'n fath o "damage limitation".

nicdafis a ddywedodd:Nid yw tun Coke gwag yn cyfrannu lot at cynhesu byd-eang, ond mae proses o gloddio'r alwminiwm...

Drwy ailgylchu ella bo ti'm yn arbed llawer o egni ond ti'n arbed adnoddau crai - dydi hynna ddim yn ffactor bwysig i'w ystyried wrth ailgylchu? Mae na betha blaw cynhesu byd-eang i feddwl amdanyn nhw...

nicdafis a ddywedodd:Sori, Chwadan, ond ti'n colli'r pwynt.

Dwi ddim yn colli'r pwynt, o'n i'n trio gneud un newydd sbon ond weithiodd o ddim :winc:

Tip - bryna botel 3l o Diet Coke a gei di'r un faint a sa ti'n gal mewn 9 can!! Gwych! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron