Ffyrdd practical i fod yn "eco-friendly"

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Alys » Gwe 16 Mai 2003 1:35 pm

Dach chi gyd yn gwneud imi deimlo'n reit euog - dwi'n edrych ymlaen at fy ngwylia - ond da ni'n hedfan :wps: :wps: ! (Am y tro 1af ers oesoedd a dan ni'n mynd ar wylia yn y wlad hon fel arfer ... onast!)
Dan ni'n byw'n eitha diarffordd felly bod rhaid defnyddio'r car, ond dan ni'n trio trefnu lifftiau a cynllunio siwrnia ayb i fod mor ofalus â phosibl efo'r car, mae gynnon ni bylbiau ynni-llai ymhobman, ma gynnon ni ardd llysiau a ieir am wyau, dan ni'n prynu'n lleol (heblaw am Amazon ayb. :winc: - ond yn trio cefnogi siopau lleol hefyd lle mae'n priodol) ailgylchynu pob dim (neu os yn bosib trio osgoi gormod o packaging, ailddefnyddio petha) ayb ayb...
Felly maddewch imi am hedfan y tro ma ... plis? :winc:

Gyda llaw, dylai fod grantiau ar gael i osod paneli ynni'r haul ar y ty - da ni wedi edrych i mewn i'r peth ond mae'n mor drud. Tasa pawb yn medru gwneud hynny byddai'n gwneud wahaniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Mathonwy » Llun 19 Mai 2003 10:22 pm

Mi ddarllenish i riw thiri ddiddorol oedd yn honni bod y ffaith ein bod ni yn llygru'r ddaear am ein hachub, oherwydd ma na oes ia yn diw ers canrifoedd, ac ma rheini'n betha gweddol oer a lladdus, ac felly os wnawn ni gynhesu'r ddaear ddigon drwy losgi carbon diocsid a calpartis enfawr, mi fydd pob man yn gynnes a mi fyddwn, drwy ein twpdra, wedi achub ein hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
Mathonwy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 15 Mai 2003 9:43 pm
Lleoliad: Llyn Peninshiwla

Postiogan ceribethlem » Maw 20 Mai 2003 11:59 am

Mae'r ddamcaniaeth yma braidd yn wallus. Mewn gwirionedd mae global warming yn fwy tebygol o achosi oes ia newydd. Y rheswm yw, wrth i'r tymheredd godi fe fydd yn rhannol toddi'r pegynnau. Bydd hyn yn golygu fod darnau enfawr o ia yn llifo i lawr i mewn i'r Atlantic gan oeri'r mor, wrth i'r gwynt chwythu dros y mor fe fydd yn oeri i dymheredd rhewi. Pan gyrhaeddith hi ynysoedd Prydain fe fydd yn arbennig o oer ac yn achosi i't tymheredd yma i ddisgyn yn sylweddol.
Mae'n bosib ni fydd effaith tebyg i hyn yn agosach i'r equator ac fe fydd y gwledydd yna yn twymo.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Nionyn » Maw 20 Mai 2003 12:03 pm

ceribethlem a ddywedodd:Mae'r ddamcaniaeth yma braidd yn wallus. Mewn gwirionedd mae global warming yn fwy tebygol o achosi oes ia newydd. Y rheswm yw, wrth i'r tymheredd godi fe fydd yn rhannol toddi'r pegynnau. Bydd hyn yn golygu fod darnau enfawr o ia yn llifo i lawr i mewn i'r Atlantic gan oeri'r mor, wrth i'r gwynt chwythu dros y mor fe fydd yn oeri i dymheredd rhewi. Pan gyrhaeddith hi ynysoedd Prydain fe fydd yn arbennig o oer ac yn achosi i't tymheredd yma i ddisgyn yn sylweddol.
Mae'n bosib ni fydd effaith tebyg i hyn yn agosach i'r equator ac fe fydd y gwledydd yna yn twymo.


Sa reit cwl gallu mynd i sgio lawr Cader Idris :) Ond sa Morfa Harlech yn debygol o gael ei foddi os sa lefel y more yn codi...we can't have that.
Better to keep quiet and be thought a fool than open your mouth and remove all doubt.
Rhithffurf defnyddiwr
Nionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2003 7:38 pm
Lleoliad: Ganol y Smog

Postiogan ceribethlem » Maw 20 Mai 2003 12:06 pm

Yn anffodus fe fyddai'r mwyafrif o Loegr yn boddi hefyd, sy'n ddamcaniaethol braf :winc:, ond wedyn byddai mwy o fewnlif o Saeson ardaloedd gwledig, mynyddig Cymru.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Chwadan » Maw 20 Mai 2003 12:08 pm

Nionyn a ddywedodd:Sa reit cwl gallu mynd i sgio lawr Cader Idris

Fedri di neud hynna eniwe! Lawr Fox' Path...?! :D Ond bo na'm chair lift i fynd a ti fyny yn anffodus.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Corpsyn » Mer 21 Mai 2003 10:24 pm

Chwadan a ddywedodd:chair lift i fynd a ti fynny

Ma hynna yn un or syniada gora dwi rioed di glwad, sw ni yna non stop!
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan Chwadan » Gwe 23 Mai 2003 10:26 am

Oce pan fyddai'n miliynêr nai agor un.

Ond i ddychwelyd at y pwnc gwreiddiol (:winc:), be ma bobol wyllt y mynyddoedd (pobol Gwynedd) yn feddwl o gynllun y Cyngor i'n cael ni i ailgylchu?

I'r bobol sy'n byw tu allan i ran hyfrytaf Cymru, be ma nhw wedi/am wneud ydi rhoi bocs plastic glas i bob ty ac ynddo fo da chi i fod i roi papur, caniau, gwydr a thecstiliau. Y broblem ydi, di'r bocs ma ddim yn fawr iawn a dy nhw mond yn casglu unwaith bob bythefnos. Ac mi fedrai weld y bydd lot o'r bocsys ma'n ddefnyddiol iawn fel bocsys i gadw clipings gwair a.y.b. Chwara teg i'r cyngor am drio gneud wbath - ma ishio gneud - ond mae angen gneud mwy dwi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Corpsyn » Sad 31 Mai 2003 11:30 pm

man ddechra da, sa rhyw fath o wheelie bin bach neu bocs mwy hefo ceuad yn well, ma mam yn cwyno bo nam lle ir box yn ty, sy'n eitha gwir yn ty ni. So ma'r box yn cael ei adael tu allan, a mam yn hel petha mewn peils bach yn ty (sydd y fwy bler na'r bocs rili)
Hefyd mae nhw yn uffar o ffysi be da chin cael a ddim yn cael rhoi yn y box. Oes na rhywyn yn gwbod pam dydyn nhw ddim yn gofyn am blastic?
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan neil wyn » Sul 01 Meh 2003 8:20 am

Dwi'n cael argraff dda o unrhyw cyngor sy'n trio gwneud rhywbeth am y problem sbwriel. Yn yr ardal 'ma (Wirral), efo daearyddiaeth ddelfrydol i gasglu, a phob tip yn llawn mae'r cyngor wedi gwneud dim byd.
Pwy y dialw swytchodd uh golayada i ffw£*=..
Rhithffurf defnyddiwr
neil wyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 154
Ymunwyd: Mer 14 Mai 2003 8:04 pm
Lleoliad: Lletchwith

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron