Ffyrdd practical i fod yn "eco-friendly"

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffyrdd practical i fod yn "eco-friendly"

Postiogan Di-Angen » Iau 15 Mai 2003 10:13 am

Jim

Beth ti'n meddwl yw'r ffyrdd gorau i fyw bywyd "eco-friendly" ac anti-global? Dwi'm yn son am optio allan yn gyfangwbl o gyfalafiaeth, ond yn hytrach pethau bob-dydd galle chi wneud yn wahanol/well.

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Chwadan » Iau 15 Mai 2003 10:57 am

Fy mhrotest anti-globaleiddio, anti-llygredd bathetig i -

* Osgoi McDonalds onibai bod hi'n tua 3am a dwi'n chwil a llwglyd
* Peidio prynu stwff Nike
* Bod yn genedlaetholgar
* Ailgylchu
* Cerdded yn lle iwshio'r car, wel, o fewn rheswm.

Fel ma D-A yn gofyn, be arall fedra'i neud?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan jimkillock » Iau 15 Mai 2003 11:11 am

hei guys, dwi ddim yn fatha eco-guru yma, mond gwneud be fedrai i fel chitha. :wps:

mae'n bwynt diddorol tho, tydi? Fy hun, dwi'n meddwl defnyddio ynni ffosil ydy'r peth gwaetha ar hyn o bryd. felly, osgio ceir ac awyrennau lle posib (dyw hi ddim yn hawdd yn Nghymru cefn gwlad dwi'n cyfadda).

Efo ailgylchu dwi'n hoff o cadw compost o'r safleoedd llenwi-tir.

prynu'n lleol ydi un peth arall, yn enwedig efo bwyd, er eto dwi'n ffeindio hyn yn anodd yn amal. Y problem mawr efo bwyd ydy'r ffaith maen nhw'n cludo'r stwff yna ac yn ôl am filltiroedd, felly yn y diwedd mae'r ynni ffossil sydd wedi'i defnyddio yn fwy na'r ynni ti'n cael o fwyta'r bwyd!! Gwarthus.

Un peth arall sy'n dda dwi'n meddwl, a hawdd ydy prynu trydan o gwmni sy'n cynhyrchu trydan cynaliadwy. mae rhai yn gynnwys Juice yn costio'r un â chwmnïau trydan confensiynol.

http://www.greenchoices.org/electricity.html

Lot mwy ar y safle yna hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan ceribethlem » Iau 15 Mai 2003 3:25 pm

Mae'r ysgol dwi'n dysgu ynddi yn cymryd rhan mewn syniad a elwir yn Eco-Schools, yr egwyddor sy'n gyrru'r peth yw datblygu ymwybyddiaeth o syniadau Eco-friendly mewn plant ysgol, wedi'r cyfan fe fyddan nhw'n oedolion o fewn rhai blynyddoedd.

Un problem dwi'n ei weld gyda ffyrdd "cyfeillgar" o gael egni yw sut mae diffinio llygredd?
Mae'n swno'n hawdd, mae llosgi tannwyddau ffosil (fel soniodd Jim amdanynt gynt) yn amlwg yn llygru, mae'r effeithiau yn ymwybyddus i bawb (ond am Bush!). Glaw asid, a'r effaith Ty-Gwydr yn bennaf. Os byddwn, felly, yn edrych ar ffyrdd eraill megis melinau gwynt rhaid gofyn a oes llygredd i'w cael gan y rhain.
Na yw un ateb, ac yn wir o ran nwyon gwenwynig a pheryglus, yna nacoes, does dim llygredd. Ond mae nifer o'r cwynion am y melinau gwynt yma yn son am lygredd aesthetig, sef llygredd gweladwy (maent yn bethau salw) a llygredd sain (maent yn creu llawer o swn).
Mae egni tonnau yn goresgyn yn broblem yma trwy cael eu lleoli yn y mor, ond beth fydd effaith hyn ar yr ecosystem lleol?
Mae'r gwir broblem yn un ni ellir ei ddatrys, rydym ni fel pobl, yn effeithio (ac yn dirywio) ein amgylchedd bob tro rydym yn gwneud unrhywbeth.

O ran ceir, mae llawer o geir yn Ne America yn defnyddio alcohol yn lle petrol i redeg eu ceir, mae hyn yn bosibiliad economaidd iddynt am eu bod yn medru tyfu'r siwgr yn hawdd gyda'u hunsawdd lleol. Fe fyddai'n rhaid i ni mewnforio tunellu o siwgr i greu'r alcohol am bris uwch nac yr ydym yn mewnforio petrol, felly mae economeg ein gwlad (yn anffodus) yn golygu ni allwn gwneud yr un defnydd o'r peth.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan jimkillock » Iau 15 Mai 2003 4:35 pm

ceribethlem a ddywedodd:Os byddwn ... yn edrych ar ffyrdd eraill megis melinau gwynt rhaid gofyn a oes llygredd i'w cael gan y rhain.
Na yw un ateb, ac yn wir o ran nwyon gwenwynig a pheryglus, yna nacoes, does dim llygredd. Ond mae nifer o'r cwynion am y melinau gwynt yma yn son am lygredd aesthetig, sef llygredd gweladwy (maent yn bethau salw) a llygredd sain (maent yn creu llawer o swn).

Mae yn gwestiwn mawr ti'n codi, ceribethlem, nid yn unig oherwydd sut maen nhw'n edrych, ond oherwydd does dim byd gwaeth 'na godi gwrthwynebiad.

Yng Nghymru, siwr o fod, mae'r ymateb wedi cael ei greu gan roi cymaint o felinau mewn un ardal (y canolbarth). Mae hyn yn braidd yn distyrbing, hyo os ti ddim yn meindio'r melinau.

hyd yn oed yn Nenmarc, maen nhw wedi cyrraedd nifer (go fawr) o feliynau gwynt ar dir lle nad ydynt am godi mwy oherwydd y buasai'n dechrau tyfu gwrthwynebiadau.

Mae Cymru dal i allforio drydan, cyhrychwyd gan orsafoedd nwy, niwcliar a glo. I fy meddwl i, os dan ni'n creu ynni glân, dylem gael gwared o'r ynni sy'n llygreddu, yn hytrach na'i allforio.


ceribethlem a ddywedodd:Mae egni tonnau yn goresgyn yn broblem yma trwy cael eu lleoli yn y mor, ond beth fydd effaith hyn ar yr ecosystem lleol?
Mae'r gwir broblem yn un ni ellir ei ddatrys, rydym ni fel pobl, yn effeithio (ac yn dirywio) ein amgylchedd bob tro rydym yn gwneud unrhywbeth.

Gwir, ond nid o reidrwydd effeithio'n ddrwg. Pwynt pwysig gen ti tho.

Dwi'n meddwl bod gan Denmarc brofiad o hyn ac wedi meddwl nad oes fawr o effaith. Mae effaith bach o roi unrhywbeth ar lawr y môr, ond mae'n gymharol fach, wrth feddwl am platfformau olew yn dympio cynhyrchion gwastraff y proses drilio, er enghraifft.

Mae'n bosib cael mwy o ynni ohonynt, hefyd, oherwydd mae'n nhw'n fwy, ac mae'r gwynt yn gryfach.

Hefyd, mae'n bosib eu rhoi yn agos at boblogaethau mawr Cymreig, (mae'r rhan fwya o bobl yn y byd yn eitha agos at y môr - 80% tu fewn 20 milltir? Dwi'm yn cofio) sy ddim yr un mor wir efo'r melinau ar fryniau yn y Canolbarth. Peth pwysig oherwydd cael gwrthiant trydanol a cholli ynni.

(Gydal llaw, wyt ti'n dysgu gwyddoneg ceribethlem, neu gofio mwy na fi o'r ysgol?!)
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Chwadan » Iau 15 Mai 2003 5:09 pm

jim killock a ddywedodd:Mae Cymru dal i allforio drydan, cyhrychwyd gan orsafoedd nwy, niwcliar a glo. I fy meddwl i, os dan ni'n creu ynni glân, dylem gael gwared o'r ynni sy'n llygreddu, yn hytrach na'i allforio.

Cytuno - dwi'n meddwl fod Ffrainc yn gneud hyn efo ynni niwcliar dydyn? Dim ond hyn a hyn o lygredd gaiff pob gwlad ei greu wrth gynhyrchu trydan felly os dy nhw wedi gorffen y cwota yma ac eisiau mwy o drydan mae nhw'n prynu trydan gan Ffrainc - sy'n gallu ei gynhyrchu fwy neu lai yn ddi-lygredd gan fod y mwyafrif o'u hynni nhw'n dod o bwerdai niwcliar.

Felly ma pawb ond yr amgylchedd yn elwa - ma gwledydd heblaw Ffrainc yn gallu prynu trydan heb boeni am lygredd, ma Ffrainc yn gneud bom ac yn gallu cadw prisiau trydan yn isel. Ond mi fydd ganddyn nhw dipyn o broblem pan fydd angen cal gwared o'r gwastraff niwcliar i gyd.

Dwi'n meddwl y dylai Ewrop basio deddf yn gwahardd gwledydd rhag gwerthu trydan i'w gilydd - er fasa hyn ddim yn gweithio yng Nghymru :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan ceribethlem » Iau 15 Mai 2003 10:09 pm

(Gydal llaw, wyt ti'n dysgu gwyddoneg ceribethlem, neu gofio mwy na fi o'r ysgol?!)


Ydw, ac fel mae'n digwydd newydd fod yn dysgu dosbarth TGAU am ffyrdd gwahanol o gynhyrchu egni a'r Pros a'r Cons sy'n perthyn i bob un.
Fel wnes ti awgrymu, dyw popeth ddim yn ddu a gwyn, ond mae rhai mathau o lygredd yn llai peryglus nac eraill.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan nicdafis » Iau 15 Mai 2003 11:15 pm

Plannu gardd a phaid hedfan.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan ceribethlem » Gwe 16 Mai 2003 11:42 am

Syniad perffaith, yr hen system cyn-gyfalafol o gymuned Cymraeg mewn gwirionedd.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan nicdafis » Gwe 16 Mai 2003 12:17 pm

Wel, mae e'n ddechreuad. Lleihau'r pellter rhwngddot ti a ffynhonnau dy fywyd ym mha bynnag ffordd sy'n bosibl, heb fod yn biwritan amdano. Ond does dim lot o bwynt ail-gylchu dy Coke cans ac wedyn hedfan i America bob blwyddyn. Rhaid i ni ddysgu sut i fyw yn y fan hyn. Dod yn frodorion go iawn. Cymryd cyfrifoldeb. Ac yn y blaen.

</hen_ddyn>
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai