Dach chi gyd yn gwneud imi deimlo'n reit euog - dwi'n edrych ymlaen at fy ngwylia - ond da ni'n hedfan ! (Am y tro 1af ers oesoedd a dan ni'n mynd ar wylia yn y wlad hon fel arfer ... onast!)
Dan ni'n byw'n eitha diarffordd felly bod rhaid defnyddio'r car, ond dan ni'n trio trefnu lifftiau a cynllunio siwrnia ayb i fod mor ofalus â phosibl efo'r car, mae gynnon ni bylbiau ynni-llai ymhobman, ma gynnon ni ardd llysiau a ieir am wyau, dan ni'n prynu'n lleol (heblaw am Amazon ayb. - ond yn trio cefnogi siopau lleol hefyd lle mae'n priodol) ailgylchynu pob dim (neu os yn bosib trio osgoi gormod o packaging, ailddefnyddio petha) ayb ayb...
Felly maddewch imi am hedfan y tro ma ... plis?
Gyda llaw, dylai fod grantiau ar gael i osod paneli ynni'r haul ar y ty - da ni wedi edrych i mewn i'r peth ond mae'n mor drud. Tasa pawb yn medru gwneud hynny byddai'n gwneud wahaniaeth.