Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2003 3:50 pm
gan nicdafis
Dw i wedi prynu rhai o'r rhain hefyd, ond o leia bydda i'n gallu defnyddio nhw wythnos nesa amser dw i'n wneud cordial ysgawen.

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2003 4:55 pm
gan Alys
Sgin ti ryseit neis? (Os ca i brofi mod i'n ferch :winc: a gofyn am ryseitiau a ballu). Mae gynnon ni lond goeden o'r blodau a dwi di bod yn bwriadu gwneud rhywbeth ond wedi colli fy ryseit 'stalwm.

Dwi'n cytuno cant a chant efo ail-ddefnyddio yn hytrach nag ailgylchu. Dan ni'n cael llaeth gan y dyn llaeth - golygu cefnogi busnes lleol, ail-ddefnyddio'r poteli ac hefyd mae o newydd ddechrau darparu sudd cranberry (beth bynnag ydi hwn yn y Gymraeg) - mewn poteli ti'n gallu eu hail-ddefnyddio hefyd - blasus.
Dwi'n gwneud lot o waith i'r Almaen a dan ni'n frawychus o ar ei hôl hi ym materion gwyrdd wedi cymharu â nhw ymhob agwedd o fywyd - wel yn ôl fy mhrofiad i beth bynnag. Ond fel dywedodd Cardi, os dan ni gyd yn gwneud ein siar bach gobeithio medrwn wneud rhywfaint o wahaniaeth.

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2003 5:08 pm
gan Chwadan
Mewn rhai llefydd yn Ffrainc mae gan bob cartref nifer o finiau clefar - ma na micro-chip ynddyn nhw sy'n medru dweud pa fath o wastraff sy'n cael ei roi ynddyn nhw fel'ch bod chi mond yn medru rhoi un math penodol o wastraff ym mhob bin. Wmbo, ella fod hynny'n mynd â petha braidd yn rhy bell :?

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2003 7:56 pm
gan nicdafis
Alys: sori, wnes i gamdeipio (eto): nid cordial dyn ni'n wneud ond <a href="http://www.bbc.co.uk/dna/h2g2/alabaster/A581131">siampaen</a>. Philippa sy'n wneud y stwff cymhleth a fi sy'n casglu'r blodau, ond mae'r rysait 'na yn edrych yn debyg i beth mae hi'n wneud.

PostioPostiwyd: Gwe 27 Meh 2003 12:04 pm
gan Aelod Llipa
2 Flynedd yn ol es i ar wyliau i Dde'r Almaen, ac roedd hi'n syndod gweld cymaint o bethau oedd yn cael eu hailgylchu. Roedd POB potel wydr yn cael ei ail ddefnyddio h.y. roeddech yn cael arian yn ol am eu dychwelyd i'r siop (nid dim ond Corona a Llaeth).
Mae'r Almaenwyr hyd yn oed yn ailgylchu "Batris"

PostioPostiwyd: Iau 07 Rhag 2006 7:59 pm
gan Dili Minllyn
Mae yna daflen A4 o gynghorion ymarferol :syniad: ar wefan Al Gore ("cyn-Arlywydd-nesa'r-Unol-Daleithiau," chwedlau yntau). Wrth gwrs, er mwyn bod yn wirioneddol wyrdd, mae eisiau i chi beidio â phrintio'r peth (fel dwi newydd wneud - 'rhen fandal amgylcheddol i fi :? ) ond ei ddarllen a'i gadw yn eich cof. :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 12:26 am
gan Waen
2 peth dwi'n gwneud pob dydd-
weindio fy watch a
shafio gyda'r rasal (glyb).

pethau bach dwi'n gwybod

ydwi yn 'rhyfedd' yn hyn o beth, ta oes yna mwy o pobl yma yn defnyddio'r 'hen' technoleg 'ma.

o.n. dim (cut throat) di'r rasal :ofn:

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 1:32 pm
gan Dili Minllyn
Batri sydd yn fy wats i, ond dwi'n cytuno gyda ti am rasal draddodiadol. Does gyda fi ddim amynedd efo rasal drydan beth bynnag - dyw e byth yn dal y blew i gyd. Er hynny, mae brwsh danned trydan gyda fi, gan fod yn deintydd yn mynnu bod hynny'n llawer gwell i 'nannedd.

Dwi'n eitha brwd dros arbed dŵr hefyd, ac yn gadael i'r glaw olchi 'nghar, er bod y boi ar waelod y stryd yn dadwneud 'ngwaith da trwy olchi ei SUV efo jetwash gwastraffus tu hwnt.

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 3:24 pm
gan Rhys
Waen a ddywedodd:2 peth dwi'n gwneud pob dydd-
weindio fy watch a
shafio gyda'r rasal (glyb).

pethau bach dwi'n gwybod

ydwi yn 'rhyfedd' yn hyn o beth, ta oes yna mwy o pobl yma yn defnyddio'r 'hen' technoleg 'ma.

o.n. dim (cut throat) di'r rasal :ofn:



Batris neu mains sy'n gyrru pob cloc yn y tŷ :wps:

ond dwi'n eillio gyda rasal a sebon. Fues innau byth yn ffan o beiriant eillio trydan chwaith. Tan tua blwyddyn yn ôl reoddwn yn defnyddio gel/foam o dun aerosol, ond prynnais frwch a sebon o'r Soap Shed tua'r adeg yma llynedd a mond ar fîn gorffen mae o![/list]

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 4:28 pm
gan Dili Minllyn
Rhys a ddywedodd:Tan tua blwyddyn yn ôl reoddwn yn defnyddio gel/foam o dun aerosol, ond prynnais frwch a sebon o'r Soap Shed tua'r adeg yma llynedd a mond ar fîn gorffen mae o!

Syniad da. Af ar ôl hwnna. Dyw'r caniau aerosol o ewyn eillio 'mond yn para am ychydig wythnosau.