Flynyddoedd yn ôl mi rydw i'n cofio fy mam yn siopa gan ddefnyddio ei bag siopa ei hun, ac fe roedd pawb arall yn gwneyd yr un peth hefyd. Dyna oedd y drefn a'r ffashiwn bryd hynny. Ond wedi edrych yn ôl hwyrach mai diffyg arian oedd wedi dod a'r ffashiwn yma i rym yn hytrach na chariad tuag at yr amgylchedd.
Ond heddiw y cwestiwn a ofynir imi yn yr archfarchnad ydi: 'Paper or plastic Sir?' Wel medda finnau:'Plastic sounds exciting."
Wrth gwrs mae plastic yn dal dwr ac yn ychydig cryfach na papur. Ond wedi meddwl, hen beth diflas ydi plastig hefyd, gan nad yw'n pydru fel pethau eraill ac yn dueddol i hongian o gwmpas ein canolfannau sbwriel am flynyddoedd.
Wn i ddim sut mae pethau adref y dyddiau yma ond fan yma ar Ynys Fancwfyr mae 'na fenter newydd ar y trothwy.
Yma fe'ch annogir i ddefnyddio eich bag siopa eich hun. Ac mae 'na rai eitha del a lliwgar i gael. Fe'u cynhyrchir allan o hen focsus jiws gan gwmni o ferched o'r Philippines. Rhaid imi brynu un neu ddau.
Fedra i ddim newid dros nos cyfanswm y plastig mae'r byd yma'n eu greu ond mi fedra'i wneyd fy rhan. Un cam ar y tro ac un bag plastig yn llai!
Lôn Groes