Ydy pobl yn gwybod am <a href="http://www.wwoof.org/" title="Worldwide Oppurtunities on Organic Farms" class="acro">WWOOF</a>? Ffordd ardderchog i ddysgu tipyn bach am ddulliau ffermio/garddio cynaladwy, a gweld y byd yr un pryd, heb wario lot o arian.
Wnes i gryn dipyn o Wyffio yng Nghymru pan o'n i'n edrych am ffordd i fyw yn y cefn gwlad, nôl yn 1996/7. Erbyn hyn dw i'n byw ar <a href="http://maesymorfa.com">dyddyn</a>, ac am wn i ninnau yw'r unig lletywyr WWOOF Cymraeg, er bod llawer o letwyr yng Nghymru. (Mae'n bosib mod i'n anghywir yma, gobeithio mod i.) Dw i yn pryderu braidd bod WWOOF wedi denu mwy o bobl di-Gymraeg i fyw yng nghefn gwlad Cymru, ond dyn ni'n wastad yn ceisio esbonio'r sefyllfa ieithyddol/economaidd i'n gwestai ni.
Y drefn yw dy fod di, fel y Wyffwr, yn cysylltu â lletwr o'r rhestr ti'n cael wrth ymuno â'r cymdeithas, a rhynddoch chi dych chi'n trefnu ymweliad, boed penwythnos hir neu wythnos neu fis. Cyfrifoldeb y lletwr yw i roi bwyd a llety i ti, a dy gyfrifoldeb di yw i weithio am sbel bob dydd a gobeithio dysgu rhywbeth yr un pryd. (<a href="http://www.wwoof.org/howworks.asp">Mwy o fanylion am hyn</a>.) Faint wyt ti'n gweithio yn dibynnu ar y lletwr - dw i wedi bod mewn llefydd lle maen nhw'n disgwyl i ti weithio 9 tan 5 - gall hyn fod yn iawn os ydy'r gwaith yn ddiddorol, ond ddim lot o hwyl os wyt ti'n symud dom trwy'r dydd. Fan hyn, dyn ni'n tueddu gofyn am ryw 5 awr o waith y dydd, ond dyn ni ddim yn dibynnu ar y tyddyn am fywoliaeth fel rhai pobl.
Mae'n gallu achosi problemau gyda'r dôl, wrth reswm, felly paid â dweud wrth y Canolfan Gwaith os wyt ti'n neud.
Wnes i ddysgu lot trwy wneud bach o wyffio, ac yn sicr fyddwn i ddim yn byw yn Llangrannog annwyl oni bai mod i wedi wneud e.
Unrhyw arall wedi wneud?