WWOOF - gweithio ar ffermydd organig

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Wyffwr wyt ti?

Ie, wyffwr o fri
1
11%
Wedi meddwl amdano
2
22%
Syniad newydd, swnio'n dda
6
67%
Ddim yn hoffi'r syniad
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 9

WWOOF - gweithio ar ffermydd organig

Postiogan nicdafis » Gwe 16 Mai 2003 10:01 am

Ydy pobl yn gwybod am <a href="http://www.wwoof.org/" title="Worldwide Oppurtunities on Organic Farms" class="acro">WWOOF</a>? Ffordd ardderchog i ddysgu tipyn bach am ddulliau ffermio/garddio cynaladwy, a gweld y byd yr un pryd, heb wario lot o arian.

Wnes i gryn dipyn o Wyffio yng Nghymru pan o'n i'n edrych am ffordd i fyw yn y cefn gwlad, nôl yn 1996/7. Erbyn hyn dw i'n byw ar <a href="http://maesymorfa.com">dyddyn</a>, ac am wn i ninnau yw'r unig lletywyr WWOOF Cymraeg, er bod llawer o letwyr yng Nghymru. (Mae'n bosib mod i'n anghywir yma, gobeithio mod i.) Dw i yn pryderu braidd bod WWOOF wedi denu mwy o bobl di-Gymraeg i fyw yng nghefn gwlad Cymru, ond dyn ni'n wastad yn ceisio esbonio'r sefyllfa ieithyddol/economaidd i'n gwestai ni.

Y drefn yw dy fod di, fel y Wyffwr, yn cysylltu â lletwr o'r rhestr ti'n cael wrth ymuno â'r cymdeithas, a rhynddoch chi dych chi'n trefnu ymweliad, boed penwythnos hir neu wythnos neu fis. Cyfrifoldeb y lletwr yw i roi bwyd a llety i ti, a dy gyfrifoldeb di yw i weithio am sbel bob dydd a gobeithio dysgu rhywbeth yr un pryd. (<a href="http://www.wwoof.org/howworks.asp">Mwy o fanylion am hyn</a>.) Faint wyt ti'n gweithio yn dibynnu ar y lletwr - dw i wedi bod mewn llefydd lle maen nhw'n disgwyl i ti weithio 9 tan 5 - gall hyn fod yn iawn os ydy'r gwaith yn ddiddorol, ond ddim lot o hwyl os wyt ti'n symud dom trwy'r dydd. Fan hyn, dyn ni'n tueddu gofyn am ryw 5 awr o waith y dydd, ond dyn ni ddim yn dibynnu ar y tyddyn am fywoliaeth fel rhai pobl.

Mae'n gallu achosi problemau gyda'r dôl, wrth reswm, felly paid â dweud wrth y Canolfan Gwaith os wyt ti'n neud.

Wnes i ddysgu lot trwy wneud bach o wyffio, ac yn sicr fyddwn i ddim yn byw yn Llangrannog annwyl oni bai mod i wedi wneud e.

Unrhyw arall wedi wneud?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Alys » Gwe 16 Mai 2003 10:20 am

Dôn i ddim wedi clywed amdano o'r blaen, mae'n swnio'n ddiddorol.
Gwyliau nesa ni, efallai!
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Nionyn » Sul 18 Mai 2003 11:18 am

Ai dyma pam mae'r rets mor rhad i aros yn Maes y Morfa?
Better to keep quiet and be thought a fool than open your mouth and remove all doubt.
Rhithffurf defnyddiwr
Nionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2003 7:38 pm
Lleoliad: Ganol y Smog

Postiogan nicdafis » Sul 18 Mai 2003 3:37 pm

;-)

Na, does dim rhaid i ti weithio os wyt ti'n talu i aros yn y <a href="http://maesymorfa.com">Beudy</a>. Dan ni wedi cael pobl sy'n aros 'na ac yn weithio yn lle talu, neu sy'n talu gyda credydau LETS, ond mae arian yn reit handi weithiau, frenhines neu beidio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Huw T » Llun 26 Mai 2003 3:10 pm

Ma'r synaid Wwoof ma'n swnio'n reit dda chware.
Dwy ddim yn hollol convinced gan y syniad o ffermio organig fodd bynnag. Yn amlwg ma fe'n dda i'r amgylchedd, ma lefel A daear wedi profi hynny :winc: Ond beth am yn gymdeithasol. Os yw bwyd organig yn ddrutach, nag y ni mewn peryg o greu 'two tier system' lle ma'r rhai sy'n medru fforddio yn gallu prynnu bwyd o safon ardderchog, tra fod pobl a dim gymaint o arian yn gorfod prynnu bwyd llai iachus.

Yw hyn yn asesiad teg o'r sefyllfa Nic? Neu ydw i jyst yn bod yn paranoid a pedantic?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan nicdafis » Llun 26 Mai 2003 6:24 pm

Huw T a ddywedodd:Neu ydw i jyst yn bod yn paranoid a pedantic?


Ti sy'n dweud ;-)

Na, o ddifri mae pwynt digon teg, ond does dim rheswm (da) pam mae bwyd organig yn fwy costus na bwyd "cemegol". Dyw e ddim yn costi mwy i dyfu tato organig, neu odro gwartheg organig, <i>ond</i> mae holl system dosbarthu bwyd ym Mrydain (ac yn y byd) yn dibynnu ar "arbedion maint". Mae rhan fwya o ffermydd organig yn llai na "ffermydd sachaid" a felly nad oes ganddyn nhw'r un fath o "leverage" yn y farchnad. Cofia bod y rhan fwya o fwyd ym Mhrydain yn cael ei brynu mewn archfarchnad, a nhw sy'n gosod y termau i'r ffermwyr, ac sy'n wneud yr elw mawr.

Y broblem yw bod bwyd organig wedi cael ei farchnata fel "lifestyle choice" i'r dosbarth canol, sy'n gallu fforddio bod yn obsesed gyda pob rhif-E sy'n mynd i mewn i gegau eu Jackiaid a'i Alisiaid. Pwy yn ei gof iawn fyddai'n talu £2 am becyn o greision yn Marks & Sparks tra bod pecyn 20c ar gael yn Cwics?

Os wyt ti moyn bwyd iach, rhad, rho dy enw lawr am lotment a tyfu dy fwyd dy hun. Ond tria Wwoof yn gyntaf, i weld beth sy'n bosibl.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Huw T » Llun 26 Mai 2003 7:55 pm

So basically, gwladoli'r archfachnadoedd, a throi pob fferm i ddefnyddio dulliau organig? Ayay Comrade :crechwen:

diolch Nic, ateb boddhaol :winc:

Ond tria Wwoof yn gyntaf, i weld beth sy'n bosibl.


Blwyddyn mas rhywle lawr y lein, falle wnai!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai