Rwy'n deall bod y Cynulliad wedi addo rhoi tair miliwn o bunnoedd dros y tair blynedd nesa 'ma i roi gwedd newidiad i'r shed hyll 'na ar gopa'r Wyddfa, sydd wedi bod yn llygru'r amgylchedd am bron i saith deg o flynyddoedd bellach. Petai gen i gaib a rhaw mi fuaswn yn cael mwyniant o'i lefelu yn hollol a thyfu grug ar y fangre.
Mi fuasai copa'r Wyddfa yn llawer tlysach heb adeilad o gwbwl yn y marn i. Lle distaw, lle i synfyfyrio, lle i feddwl, lle i ryfeddu a lle i werthfawrogi natur ddylsai copa'r Wyddfa fod ac nid rhyw Marine Lake i rwygo ac anwibyddu'r tawelwch mawr.
Lôn Groes