Cymru'n Boddi mewn sbwriel?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garlleg » Maw 26 Gor 2005 9:38 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Mae'n bosibl taflu'ch pî-pî ar y compost hefyd, os ydych chi'n ddigon dewr.
- Pa fath o wenogluniau ydy "appropriate" yno? Mi wnes i brynu llyfr pan es i i'r Ganolfan Dechnoleg Amgen - "Liquid Gold"... Mae defnyddio'r "Liquid Gold" ar y compost yn eitha' hawdd (dw i'n gwneud hynny heb meddwl) ond.... yn anffodus, dw i ddim yn medru cyfiethu "Before yeast was introduced, European bakers may have used urine in breadmaking"... Ac yn yr Almaen ac yn Y Swistir, wnaeth "cheesemakers" ddefnyddio'r urine yn eu caws! Dw i ddim yn ffansio'r Emmental rwan!
http://www.cyd.org.uk
Noson Sgorsio - Galeri C'fon 8.30 5ed o Fedi
Rhithffurf defnyddiwr
Garlleg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:26 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan 7ennyn » Maw 26 Gor 2005 10:43 pm

Wrth gwrs y dylia ni ailgylchu mwy ond mae rhai o awdurdodau lleol Cymru mewn panic yn ceisio cyrraedd y targedau a osodwyd arnynt gan y Cynulliad. Yr unig ystadegyn sydd yn bwysig iddynt ydi'r tunnelledd sydd yn cael ei gasglu ar gyfer ailgylchu. Tydi'r egwyddor y tu ol i'r peth ddim yn cael ei ystyried - does yna ddim ots ganddyn nhw be sydd yn digwydd i'r deunyddiau wedi iddyn nhw eu casglu. Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o'r plastig a gesglir yn cael ei allforio i China!

Mae yna gynnydd wedi bod yn faint o ddeunydd sydd yn cael ei ailgylchu ond mae yna ostyngiad wedi bod yn safon y deunydd. Ond mae'r pwysau mawr ar awdurdodau lleol i gynyddu tunnelledd ailgylchu yn golygu bod deunydd o wahanol safon yn cael eu cymysgu ac yn cael eu trin fel 'bulk' er mwyn arbed costau. Mae deunydd 'bulk' fel hyn yn gorfod cael ei drin fel deunydd o safon isel er bod deunydd o safon uchel wedi cael ei gymysgu ynddo. Canlyniad hyn ydi bod dolen yn y gadwyn ailgylchu yn cael ei sgipio.

e.e. Y gadwyn ailgylchu papur:

Papur swyddfa (safon da) -> Papur newydd/'newsprint' (safon canolig) -> Papur sychu tin (cynnyrch terfynnol).

Ond os ydi'r papur yn cael ei gasglu mewn 'bulk', heb ei ddidoli, bydd y ddolen 'papur newydd' yn y gadwyn ailgylchu yn cael ei dorri allan. Er bod casglu deunydd mewn 'bulk' yn golygu nad ydi'r broses ailgylchu mor effeithiol ag y dylai fod, mae o yn ychydig bach yn well na thirlenwi. Mae nifer o erthyglau wedi ymddangos yn Material Recycling Week yn mynegi pryder am y gostyngiad yn safon y deunydd ailgylchu (dim dolenni - tanysgrifwyr yn unig :( )

Felly, i grynhoi, mae ailgylchu o dan y drefn bresennol yn bell o fod mor effeithiol ag y gallai fod.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai