Cymru'n Boddi mewn sbwriel?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru'n Boddi mewn sbwriel?

Postiogan Aelod Llipa » Maw 16 Tach 2004 5:01 pm

Yn ôl y BBC, ni fydd lle ar ôl i gladdu ein sbwriel yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2010. Ydi pobl Cymru'n mynd i barhau i fod yn ddiog a gwrthod ail-gylchu, a byw mewn sgip erbyn 2011?

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/3962023.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan bartiddu » Maw 16 Tach 2004 8:55 pm

Dyw'r archfarchnadoedd ddim yn helpu'r achos o gwbwl.
Gan taw yn y siopau enfawr yma mae'r rhan fwyaf o'r werin yn prynu eu nwyddau wythnosol bellach, mae'n bron amhosib i brynu unrhyw gynyrch heb fod e wedi lapio mewn haenau sylweddol o blastic!
Dyle deddf gyfreithiol cael ei bassio'n go glou i orfodu'r cwmniau mawr 'ma i 'neud gorchuddion eu cynyrch yn 'bio degradable'!
Mae'n hala arswyd arnai bob tro dwi'n meddwl am y pethe ma'n gorwedd dan y ddaer am canrifoedd os nad miloedd o flynydde!
Dwi'n siwr medryth y cwmniau Anghenfilol 'ma fforddio i drawsnewid ei dulliau! Ond dwi'n siwr gwna nhw ddim yn wirfoddol!
Deddf wrth-blastic newydd nawr! :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Aranwr » Llun 18 Ebr 2005 2:43 pm

Yn fy marn i mae angen newid yn gyfangwbl ein hagwedd tuag at sbwriel... gorfodi'r genedl i ailgylchu fel petai. Ma' isie mwy o wybodaeth ynglyn a gwahanol ddulliau o ailgylchu yn ogystal a chodi mwy o ganolfanau. Ma' isie i bawb feddwl yn fwy am ddefnyddio yr hyn sydd ganddyn nhw eto - defnyddio hen ddilledyn fel clwtyn neu degan i'r ci er enghraifft. Ma' isie i'r llywodraeth osod rheolau llym ar ddeunydd pacio hefyd - un enghraifft yw wyau pasg sy'n dod mewn pob math o goverings stiwpid, di-angen!

Efalle' bydde casglu sbwriel unwaith bob pythefnos neu hyd yn oed unwaith y mis (yn hytrach na'n wythnosol) yn gorfodi pobl i ail-gylchu'n fwy aml a meddwl am ddyfodol ein planed!
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan dave drych » Llun 18 Ebr 2005 2:46 pm

Pe di'r pwynt sticio bananas ac orenau mewn bagiau plastig wrth fynd i Safeways?
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 02 Gor 2005 9:42 pm

Mae tomen sbwriel Penhesgyn bron yn llawn...be' 'nawn ni wedyn?! :?
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Llun 25 Gor 2005 6:50 pm

Mae eisiau bod yn bendant iawn wrth siopa, a gwrthod bagiau plastig bod cyfle. Mae treth drwm ar y rhain yn Iwerddon, ac mewn un dalaith yn yr India gallwch chi gael saith mlynedd o garchar am ddefnyddio un.

Dwi hefyd wedi rhoi'r meibion mewnclytiau cotwmgan fod clytiau taflu'n rhan fawr o wastraff cartrefi lle mae plant.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Garlleg » Llun 25 Gor 2005 8:32 pm

Ro'n i'n siarad efo ffrindiau am ailgylchu - yn ardal ffrind ohonyn nhw, mae 'na wasanaeth ailgylchu - mae'r cyngor yno'n casglu papur, gwydr, caniau, a "kitchen waste" - maen nhw'n gwerthu'r compost o "kitchen waste" hefyd. Mae'n bosib i ailgylchu bron popeth!
http://www.cyd.org.uk
Noson Sgorsio - Galeri C'fon 8.30 5ed o Fedi
Rhithffurf defnyddiwr
Garlleg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:26 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dr Gwion Larsen » Llun 25 Gor 2005 8:45 pm

Mae Carmel yn llawn sbwriel - joc
Er fy mod yn gefnogwr mawr ar ail-gylchu, yn arbennig cynllun Cyngor Gwynedd i gasglu'r nwyddau a'i ailgylchu, ymddengys ei bod yn gwneud mwy o niwed i'r amgylchfed drwy fynd yn y car i'r fan ailgylchu nac yr ydych yn gwneud o fudd!
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dili Minllyn » Maw 26 Gor 2005 8:54 am

Garlleg a ddywedodd:Ro'n i'n siarad efo ffrindiau am ailgylchu - yn ardal ffrind ohonyn nhw, mae 'na wasanaeth ailgylchu - mae'r cyngor yno'n casglu papur, gwydr, caniau, a "kitchen waste" - maen nhw'n gwerthu'r compost o "kitchen waste" hefyd. Mae'n bosib i ailgylchu bron popeth!


Yn sicr, mae tomen gompost ar waelod ein gardd, lle mae bron pob dim o wastraff y gegin yn mynd, a hwnna wedyn yn troi'n gompost i ni dyfu llysiau.

Mae'n bosibl taflu'ch pî-pî ar y compost hefyd, os ydych chi'n ddigon dewr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan sian » Maw 26 Gor 2005 9:30 am

Garlleg a ddywedodd:Ro'n i'n siarad efo ffrindiau am ailgylchu - yn ardal ffrind ohonyn nhw, mae 'na wasanaeth ailgylchu - mae'r cyngor yno'n casglu papur, gwydr, caniau, a "kitchen waste" - maen nhw'n gwerthu'r compost o "kitchen waste" hefyd. Mae'n bosib i ailgylchu bron popeth!


Mae Gwynedd yn casglu papur, gwydrau, caniau a dillad o'n hardal ni bob pythefnos - ydyn nhw ddim yn dod i dy dy^ di? - a rwy wedi gweld rhyw fagiau gwynion y tu allan i dai pobl - mae'n edrych yn debyg mai gwastraff o erddi sydd yn rheiny
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron