Wrth gwrs y dylia ni ailgylchu mwy ond mae rhai o awdurdodau lleol Cymru mewn panic yn ceisio cyrraedd y targedau a osodwyd arnynt gan y Cynulliad. Yr unig ystadegyn sydd yn bwysig iddynt ydi'r tunnelledd sydd yn cael ei gasglu ar gyfer ailgylchu. Tydi'r egwyddor y tu ol i'r peth ddim yn cael ei ystyried - does yna ddim ots ganddyn nhw be sydd yn digwydd i'r deunyddiau wedi iddyn nhw eu casglu. Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o'r plastig a gesglir yn cael ei allforio i China!
Mae yna gynnydd wedi bod yn
faint o ddeunydd sydd yn cael ei ailgylchu ond mae yna ostyngiad wedi bod yn safon y deunydd. Ond mae'r pwysau mawr ar awdurdodau lleol i gynyddu tunnelledd ailgylchu yn golygu bod deunydd o wahanol safon yn cael eu cymysgu ac yn cael eu trin fel 'bulk' er mwyn arbed costau. Mae deunydd 'bulk' fel hyn yn gorfod cael ei drin fel deunydd o safon isel er bod deunydd o safon uchel wedi cael ei gymysgu ynddo. Canlyniad hyn ydi bod dolen yn y gadwyn ailgylchu yn cael ei sgipio.
e.e. Y gadwyn ailgylchu papur:
Papur swyddfa (safon da) -> Papur newydd/'newsprint' (safon canolig) -> Papur sychu tin (cynnyrch terfynnol).
Ond os ydi'r papur yn cael ei gasglu mewn 'bulk', heb ei ddidoli, bydd y ddolen 'papur newydd' yn y gadwyn ailgylchu yn cael ei dorri allan. Er bod casglu deunydd mewn 'bulk' yn golygu nad ydi'r broses ailgylchu mor effeithiol ag y dylai fod, mae o yn ychydig bach yn well na thirlenwi. Mae nifer o erthyglau wedi ymddangos yn
Material Recycling Week yn mynegi pryder am y gostyngiad yn safon y deunydd ailgylchu (dim dolenni - tanysgrifwyr yn unig
)
Felly, i grynhoi, mae ailgylchu o dan y drefn bresennol yn bell o fod mor effeithiol ag y gallai fod.