Tudalen 1 o 1

Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 4:04 pm
gan Siwan123
Mae sawl peiriant fideo a monitors CRT cyfrifiadurol 15"/17" ar gael i unrhyw un am ddim os ddowch chi i Sain (Llandwrog, Caernarfon) i'w nôl nhw.
Unrhyw adeg yn ystod yr wythnos yn gyfleus. Anfonwch e-bost yn gyntaf cyn dod i Sain.

Siwan
siwan@sainwales.com

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 4:18 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
(gawn ni droi hwn yn edefyn gludiog stwff am ddim?)

Teledu sgrin 50cm ar gael yn Nhreganna, Caerdydd os gallwch chi ddod i'w gasglu. NB, fel.

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 4:20 pm
gan Llefenni
Aha - Free-stuff-cycle Maes-e Iei!

mae fy ebost Yahoo di torri so allai'm cael ffix dyddiol freecycle Caerdydd - newydd gel aerial teli gen Tanya o Gaerffili nos Lun. Bonza!

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 6:15 pm
gan Chickenfoot
Oes gen y monitors speakers built in?

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 4:08 pm
gan Siwan123
Dim speakers ar y monitors nai ofn.

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Iau 17 Ebr 2008 3:09 pm
gan Siwan123
Mae na un monitor wedi mynd, ond mae na ddau ar ôl! Mae na bentwr o beiriannau fideos ar ôl hefyd.

Siwan

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Maw 06 Mai 2008 10:50 pm
gan Mistar Ti
Sain yn cael clear up Siwan?

Beth sydd gennych i'w gynnig? Monitors / chwaraewyr VHS - unrhywbeth arall?

Falle bydd angen i mi logi fan am y dydd i helpu chi!

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Mer 07 Mai 2008 10:45 pm
gan Siwan123
Ha Ha! :lol: fan fach ella (er ma na lot o chwareuwyr fideo ar gael!) Dwi'n trio peidio rhoi fflich i betha os ydyn nhw o werth i unrhyw un arall. Dim llawer o ddim byd arall angen mynd ar hyn o bryd nai ofn, ond mae na ddarnau o gyfrifiaduron o gwmpas lle os oes na unrhyw un yn trio adeiladu un.

Siwan

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 8:03 am
gan Ramirez
Siwan123 a ddywedodd:mae na ddarnau o gyfrifiaduron o gwmpas lle os oes na unrhyw un yn trio adeiladu un.

Siwan


Oes na sticks RAM 512MB 133Mhz (neu 100MHz) ??

Re: Stwff am ddim!

PostioPostiwyd: Iau 29 Mai 2008 3:54 pm
gan Siwan123
Mae na bentwr o werslyfrau'r cwrs cymraeg "Catchphrase" yma ar eu ffordd i gael eu ail-gylchu am fod na ddim CDs hefo nhw. Ydi'r rhain o
unrhyw werth i unrhyw un? Os ydyn nhw nai achub nhw - dwi'n siwr bod na tua 50 ohonyn nhw.

Mae dal peiriannau fideo a monitors CRT i'w cael yma ....


Siwan
siwan@sainwales.com