Hysbysebion "classified" personol maes-e. Prynu a gwerthu, llety, rhannu lifftiau, ffurfio bandiau, beth bynnag. DIM hysbysebion gan gwmniau a dim hysbysebu swyddi.
Cymedrolwr: ceribethlem
Rheolau’r seiat
Hysbysebion "classified" personol maes-e. Prynu a gwerthu, llety, rhannu lifftiau, ffurfio bandiau, beth bynnag. DIM hysbysebion gan gwmniau a dim hysbysebu swyddi. Os i chi'n fusnes, beth am
gan Hedd Gwynfor » Sad 28 Chw 2009 11:58 pm
Mae un Nodwedd ychwanegol wedi'i ychwanegu, diolch eto i Duw. Radio yw'r dolen diweddaraf i ymddangos islaw logo maes-e. Trwy bwyso ar y ddolen yma, bydd modd i chi wrando ar Radio Cymru neu Radio Curiad yn hawdd, ac yn fyw arlein.
Cofiwch bod rhaid i chi fewngofnodi cyn gallu gweld nifer o'r nodweddion newydd.
-

Hedd Gwynfor
- Gweinyddwr

-
- Negeseuon: 6140
- Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
- Lleoliad: Caerfyrddin
-
gan Duw » Maw 10 Maw 2009 4:51 pm
Mae cyn lleied o bobl yn mewngofnodi ar yr un pryd yn bresennol, mae'n anodd i ddal pobl. Felly dyfal donc... am nawr. Efalle bod syniad gan Hedd o ran trefnu amseroedd penodol bod pobl yn mynd i fod arlein???
-

Duw
- Gweinyddwr

-
- Negeseuon: 1263
- Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
- Lleoliad: fanyn a wynco
gan Mali » Maw 10 Maw 2009 10:29 pm
Diolch ....

Oes modd gwybod os oes 'na rhywun yn y stafell sgwrsio , ac fe fuasa hynny'n rhoi dewis i chi fynd yno a'i peidio ?
Ddim isho bod yn niwsans chwaith....

-

Mali
- Cymedrolwr

-
- Negeseuon: 2574
- Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
- Lleoliad: Canada
-
gan Duw » Mer 11 Maw 2009 9:40 am
Syniad ffantastig Mali - stim syniad gen i ble i rhoi hwnna - mae cwynion wedi codi parthed 'clyter' eisoes - sy digon teg. Beth am gosod seren (*) ar ol sgwrsio yn y pennyn pan fydd rhywun yn myned i mewn i'r peth, e.e.
FFORWM SGWRS NEWYDDION BLOGIAU GEMAU RADIO : neb yn sgwrsio
FFORWM SGWRS* NEWYDDION BLOGIAU GEMAU RADIO : rhywun wedi myned i sgwrsio
Neu ydy hyn yn rhy subtle?
//GOLYGU 16:39 11/03/09
Dwi'n meddwl fy mod wedi'i ddatrys - haws nag oeddwn yn meddwl. Dyle fod seren yn ymddangos drws nesaf i SGWRSIO os ydy rhywun wedi myned iddo a dim os nac oes unrhyw un yna. Dwi ddim yn gwybod os gall sefyllfa godi lle bo'r seren yn wag - bydd angen ei brofi i ffeindio mas - os allech roi gwybod i mi os ydy'r seren ymlaen a bod neb yna (hynny yw bod dim enw o gwbl yn y golofn dde heb law eich enw chi).
//GOLYGU 20:15 11/03/09
Wedi newid y seren i nifer y pobl sydd tu fewn SGWRSIO (cais Hedd). Ychydig mwy i weithio ar fan hyn. Nid yw'r nifer yn diweddaru pan na fydd aelod wedi allgofnodi gan law. Angen i mi osod 'cron job' er mwyn tacluso'r gweddillion.
-

Duw
- Gweinyddwr

-
- Negeseuon: 1263
- Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
- Lleoliad: fanyn a wynco
gan Arthur » Sad 14 Maw 2009 4:37 pm
-
Arthur
- Defnyddiwr

-
- Negeseuon: 12
- Ymunwyd: Maw 23 Mai 2006 4:51 pm
gan Arthur » Sad 14 Maw 2009 4:39 pm
-
Arthur
- Defnyddiwr

-
- Negeseuon: 12
- Ymunwyd: Maw 23 Mai 2006 4:51 pm
gan Mali » Sad 14 Maw 2009 4:49 pm
-

Mali
- Cymedrolwr

-
- Negeseuon: 2574
- Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
- Lleoliad: Canada
-
Dychwelyd i Ffenest Siop Pete
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai