Fysai werth i ni gael ein 'Bloggies' ein hunain fel ffordd o hybu diddordeb yn y Rhithfro?
Gyda hyn a'r Blogathon canol y flwyddyn efallai fysen ni'n medru denu sylw'r wasg.
Cymedrolwr: Rhys
Geraint a ddywedodd:Bloggies?
sbwriel a ddywedodd:ie, se hwna'n syniad da
Macsen a ddywedodd:Eiliad yn unig mae'n cymryd i deipio 'Bloggies' mewn i Google.
nicdafis a ddywedodd:A sawl eiliad mae'n cymryd i roi linc yng nghofnod cynta edefyn? Fyddi di byth ennill Bloggie fel 'na.
nicdafis a ddywedodd:Sdim pwynt cael Bloggies Cymraeg nes bod tipyn bach mwy o gystadleuaeth. Dim ond hyn a hyn o le sy ar y silff ben tân, tymod.
Macsen a ddywedodd:Anodd iawn yw categoreiddio popeth!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai