Cwpl o ddiwrnodau yn ôl fe wnes i flogio am <a href="http://morfablog.com/archifau/2005/01/27/ant_fideo_or_blogiau.html">ANT</a>, sef teclyn debyg i ddarllenydd RSS, ond i Vlogs - mae'n lawrlwytho fideos newydd bob nos i ti eu gwylio y diwrnod wedyn.
Heddi ces i sylw ar y blog gan <a href="http://momentshowing.typepad.com/">Jay Dedman</a> (pwy sy'n dweud bod enwau boring ar Americanwyr?), un o'r criw sy'n datblygu ANT. Mae e'n gofyn:
Jay a ddywedodd:We are looking for people to translate the user commands in different languages.
Love for it to be in Welsh.
Interested?
Dyw e ddim yn debyg iawn y bydda i'n dechrau blogio ar fideo am sbel (dim camera, ond yn fwy na hynny, dim awydd mawr i weld fy hun ar y sgrîn), ond os oes diddordeb 'da rhywun arall, dw i'n siwr y byddai Jay wrth ei fodd i glywed gen ti. Ceir cysylltu â fe trwy'i <a href="http://momentshowing.typepad.com/">flog</a>.
O.N. Dw i'n credu bod ANT on yn gweithio ar Mac OS X ar hyn o bryd, ond mae sôn am fersiwn Windows, os dw i'n cofio yn iawn.