gan nicdafis » Iau 03 Chw 2005 4:14 pm
Clywais i heddi bod rhywun wedi defnyddio enw/cyfrinair Llwyngwair heb iddo/iddi wybod, er mwyn chwarae cast arno/arni. Fel arfer, fyddwn i ddim yn dweud hyn yma, ond gan nad ydw i'n gwybod pwy sy'n gyfrifol, does gen i ddim opsiwn. 'Swn i'n gwybod pwy wnaeth, byddai'r person yna yn colli ei gyfrif ar y maes heb oedi, ac am byth. Mae hyn yn enghraifft o'r fath o abiws gwaetha sy'n bosib ar y we, rhywbeth sy'n gallu achosi pob math o broblemau, personol a chyfreithiol.
Ddim yn fawr, ddim yn glyfar.