Tudalen 1 o 1

Lleisiau.com - gwefan barn annibynnol

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2005 5:50 pm
gan Aran
Os ydach chi'n medru ysgrifennu a/neu gydlynu pobl eraill, beth am gynnig help llaw i greu gwefan barn annibynnol?

Os oes ganddoch ddiddordeb, dewch draw at http://www.Lleisiau.com

Mae 'Lleisiau' yn ymgais i sicrhau bod yna ffynhonell cwbl annibynnol a Chymraeg ar gyfer ystod eang iawn o bynciau arlein - o blant i wleidyddiaeth, o fwyta i geir. Gyda'ch cymorth chi, bydd modd sicrhau na fydd sefydliadau Prydeinig yn rheoli'r We Gymraeg.

Pe hoffech gyfrannu o dan un o'r pynciau presennol, byddai hynny'n fendigedig - cliciwch ar enw pwy bynnag sydd wedi cyfrannu at y pwnc dan sylw, a gewch chi anfon e-bost atynt trwy ffurflen i gynnig eich gwasanaethau. Byddant yn falch iawn i glywed ganddoch!

Ond yn well byth, beth am gymryd cyfrifoldeb am un o'r pynciau sydd heb gynrychiolaeth hyd yn hyn? Mae hyn yn golygu cael hyd o 3 i 6 o gyfrannwyr eraill gyda diddordeb yn y pwnc, a'u cael nhw i gyfrannu erthygl (wel, pwt bach, i fod yn onest - tua maint e-bost!) o 300 i 400 o eiriau unwaith y mis. Rydym yn chwilio am gydlynwyr ar gyfer:


Anifeiliaid
Arian
Ceir
Crefydd
Cymdeithasu
Garddio
Gyrfaoedd
Hamdden
Hanes
Iaith
Iechyd
Merchaid
Tai
Teithio
Teledu
Y Cynulliad

Ond os ydych yn teimlo bod yna bwnc arall ein bod wedi'i gadael allan, pob croeso i chi gynnig cydlynu'r pwnc yna! Byddwn yn derbyn unrhwybeth sydd yn ychwanegu at werth y wefan.

Pe hoffech gymryd cyfrifoldeb dros bwnc penodol, anfonwch e-bost at aran[AT]lleisiau.com, a byddwn yn creu cyfrif i chi o fewn diwrnod neu ddau.

Pe bai pawb sydd yn mwynhau darllen y Gymraeg arlein yn cyfrannu un pwt bach byr pob mis, byddwn ni'n medru creu rhywbeth o werth sylweddol!

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2005 11:36 am
gan nicdafis
Braf i weld bod Lleisiau i'w clywed erbyn hyn. Wedi darllen sawl erthygl ddifyr yna yn barod, ac edrych ymlaen at weld sut mae'r safle yn datblygu.

PostioPostiwyd: Sul 10 Ebr 2005 9:27 pm
gan Mali
Helo Aran,
Wedi picio draw i Lleisiau.com unwaith neu ddwy , ac wedi gadael ychydig o negeseuon yno . 'Roeddwn yn falch o weld adran 'Cymry ar Wasgar ' yno , ond digon distaw 'roeddwn yn gweld y safle ar y cyfan.
Yn edrych ymlaen i weld sut yr aiff pethau ....
Mali.

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2005 9:34 am
gan Aran
Helo Mali,

Diolch am hynny - ia, pethe eraill wedi tynnu fi i ffwrdd ychydig, ond dw i'n dal i droi ambell braich, a gobeithio y daw bach mwy o gyfraniadau cyn bo hir - dw i hefyd wedi trafod efo rhai blogwyr rhoi dolenni cyswllt i'w cofnodion (fesul cofnod, wrth iddyn ymddangos) ar Lleisiau.com, fel modd i gael gweld beth sy'n mynd ymlaen yn y RhithFro heb rhoi pob blog mewn darllenydd ffrwd...

Mi fyddai'n wych i gael ambell pwt bach (unwaith y mis, maint ebost, ydy beth dw i'n deud fel arfer) am fywyd yng Nghanada a/neu unrhyw ddiddordebau eraill sydd gen ti... :D

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2005 4:01 pm
gan Mali
Diolch am y wybodaeth Aran. Mi wnâf hynny....
Mali.