Os ydach chi'n medru ysgrifennu a/neu gydlynu pobl eraill, beth am gynnig help llaw i greu gwefan barn annibynnol?
Os oes ganddoch ddiddordeb, dewch draw at http://www.Lleisiau.com
Mae 'Lleisiau' yn ymgais i sicrhau bod yna ffynhonell cwbl annibynnol a Chymraeg ar gyfer ystod eang iawn o bynciau arlein - o blant i wleidyddiaeth, o fwyta i geir. Gyda'ch cymorth chi, bydd modd sicrhau na fydd sefydliadau Prydeinig yn rheoli'r We Gymraeg.
Pe hoffech gyfrannu o dan un o'r pynciau presennol, byddai hynny'n fendigedig - cliciwch ar enw pwy bynnag sydd wedi cyfrannu at y pwnc dan sylw, a gewch chi anfon e-bost atynt trwy ffurflen i gynnig eich gwasanaethau. Byddant yn falch iawn i glywed ganddoch!
Ond yn well byth, beth am gymryd cyfrifoldeb am un o'r pynciau sydd heb gynrychiolaeth hyd yn hyn? Mae hyn yn golygu cael hyd o 3 i 6 o gyfrannwyr eraill gyda diddordeb yn y pwnc, a'u cael nhw i gyfrannu erthygl (wel, pwt bach, i fod yn onest - tua maint e-bost!) o 300 i 400 o eiriau unwaith y mis. Rydym yn chwilio am gydlynwyr ar gyfer:
Anifeiliaid
Arian
Ceir
Crefydd
Cymdeithasu
Garddio
Gyrfaoedd
Hamdden
Hanes
Iaith
Iechyd
Merchaid
Tai
Teithio
Teledu
Y Cynulliad
Ond os ydych yn teimlo bod yna bwnc arall ein bod wedi'i gadael allan, pob croeso i chi gynnig cydlynu'r pwnc yna! Byddwn yn derbyn unrhwybeth sydd yn ychwanegu at werth y wefan.
Pe hoffech gymryd cyfrifoldeb dros bwnc penodol, anfonwch e-bost at aran[AT]lleisiau.com, a byddwn yn creu cyfrif i chi o fewn diwrnod neu ddau.
Pe bai pawb sydd yn mwynhau darllen y Gymraeg arlein yn cyfrannu un pwt bach byr pob mis, byddwn ni'n medru creu rhywbeth o werth sylweddol!