geiriadur T9 cymraeg

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

geiriadur T9 cymraeg

Postiogan tafod_bach » Mer 09 Maw 2005 8:57 pm

(ddim yn siwr lle i roi hwn, eds)

wedi gwglo/'ymchwilio' am wybodaeth am eiriadur T9 yn gymraeg, ond sdim lot i'w gael. geiriadur tecst i'w lawrlwytho dwi'n ei feddwl wrth T9, gyda llaw: oes unrhyw son wedi bod am ffurfio un? oes un ar gael yn barod? os dwi'n gallu lawrlwytho un georgian, siawns fydda na un cymraeg yn rwla??
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan GTI » Mer 09 Maw 2005 9:01 pm

I be wyt ti isio geiriadur text?
Jysd defnyddia besy'n swnio'n debyg, e.e w t, yn lle wyt ti.
Dalld?
Rhithffurf defnyddiwr
GTI
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 180
Ymunwyd: Iau 21 Hyd 2004 5:04 pm
Lleoliad: Ar Bererindod

Postiogan tafod_bach » Mer 09 Maw 2005 9:14 pm

yndw dwi'n dallt. gofyn o'n i am fodolaeth meddalwedd geiridaur 'predictif' cymraeg o'n i, nid gofyn am hints ar sut i decstio. fyddai byth yn iwsio 8, ur, lol...etc etc yn saesneg, a dwi ddim yn gymraeg chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan GTI » Mer 09 Maw 2005 9:19 pm

tafod_bach a ddywedodd:nid gofyn am hints ar sut i decstio


Trio gofyn oeddwn i beth yw pwynt gwario ar geiriadur yn arbrnnig i decstio?
Rhithffurf defnyddiwr
GTI
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 180
Ymunwyd: Iau 21 Hyd 2004 5:04 pm
Lleoliad: Ar Bererindod

Postiogan Chwadan » Mer 09 Maw 2005 9:34 pm

GTI a ddywedodd:
tafod_bach a ddywedodd:nid gofyn am hints ar sut i decstio


Trio gofyn oeddwn i beth yw pwynt gwario ar geiriadur yn arbrnnig i decstio?

Sgen ti predictive text messaging ar dy ffon? Yn lle bo ti'n goro pwyso pob bwtwm lot o weithia, mor ffon yn gweithio allan be ti'n drio ddeud. Fel arfer ti'n cal geiriadur Susneg, Ffrangeg, Almaeneg ac ati yn dy ffon fel fod o'n gallu cyfateb be ti'n drio ddeud i'r gair iawn. Lly os oes gen ti eiriadur Cymraeg yn "built-in" yn dy ffon, ma tecstio yn Gymraeg yn cymryd lot llai o amser.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 09 Maw 2005 10:54 pm

Dam reit. Dwi di laru ar fodio hirffurf.

A'r peth ydi mi nath rywun foddran sgwennu geiriadur tecst Cymraeg sydd wir yn hollol ddiwerth. Mater bach fysa cyflogi rhaglennwr bach clyfar i addasu rhaglenni sy'n bodoli'n barod a rhoi bas data o eiriau newydd mewn.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan dafydd » Mer 09 Maw 2005 11:21 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mater bach fysa cyflogi rhaglennwr bach clyfar i addasu rhaglenni sy'n bodoli'n barod a rhoi bas data o eiriau newydd mewn.

Dyw e ddim yn fater bach achos fod meddalwedd ffonau symudol yn dechnelog perchnogol. Wnes i cysylltu a'r bobl yma rhai misoedd yn ôl yn holi am cyfieithu T9 (ddim byd i wneud a ffonau) a mae'r broses yn eitha drud i brynu'r cit datblygu ayyb.

Os yw BIG eisiau ariannu'r peth dwi'n siwr fyddai'n bosib gwneud rhywbeth. Y peth wedyn yw perswadio pob cwmni sy'n gwerthu ffonau ym Mhrydain i gynnwys Cymraeg yn y meddalwedd (mae'n dibynnu ar faint o le sy ar gyfer y geiriaduron).
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron