Ystyr yr acronym <b>LETS</b> yw <i>Local Exchange Trading System</i>, neu <i>Local Energy Trading System</i>. Mae acronym wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg fel <b>CYFLE</b>, sef <i>Cyfundrefn Fasnachu Leol</i>, sy'n reit daclus ar ran y geirfa, ond mae cwpl o broblemau gyda fe.
Am un peth, yn y byd mudiadau gwirfoddol Cymreig, mae pob copa walltog yn defnyddio'r gair "Cyfle", felly fel <i>buzzword</i> mae e wedi'i wanhau.
Problem arall gyda'r acronym yw dyw e ddim yn glir iawn beth yw "Cyfundrefn Fasnachol Leol". Yn fy mhrofiad i, os wyt ti'n trial esbonio "LETS" i rywun gan ddechrau gyda "wel, mae'n tipyn bach fel barter, ond yn fwy hyblyg, ac yn decach, ac yn ddi-log, ac yn blah, ac yn blah, ac yn blah" mae eu llygaid yn niwlo cyn i ti gyrraedd dy atalnod llawn cyntaf.
Y ffordd symlach i ddweud beth yw LETS yw gan ddefnyddio termau mae pawb yn eu deall. Arian yw e. Mae'n gallu bod yn arian lleol, ond yn oes y we, sdim angen iddo fod i un ardal benodol yn unig. Mae bob system LETS i fod i wasanaethu un "gymuned", ond fel dyn ni'n dechrau gweld rownd fan hyn, mae mwy nag un diffiniad o "gymuned".
Dw i'n hoffi'r swn o <b>arian amgen</b>. Yn ôl geiriadau'r Academi mae ganddo <i>implication of superiority</i> yn ogystal ag <i>alternative</i> - ac mae'n cael eu defnyddio'n barod mewn ymadroddion fel <a href="http://www.cat.org.uk/welsh_text.tmpl?country=Wales">technoleg amgen</a> ac, wrth gwrs <a href="http://www.radioamgen.com">Radio Amgen</a>.