Ehangu Ffa Coffi

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ehangu Ffa Coffi

Postiogan huwwaters » Sad 07 Meh 2003 9:27 am

Sori os dwi'n ymddwyn fel draenen, ond un o'r pethe cwl dwi'n meddwl daeth o'r British Empire, oedd 'commodity trading', sef te, sbeisys coffi ac eitemau bach fel na.

Ydi hi hefyd yn bosib i roi gwerth i bethe gyda phob un yn pleidleisio dros rhywbeth. Be hoffen nhw gael, a bydd lot o ofyn yn gallu codi neu gostwng pris, gyda'r gwerthwr yn gallu gosod gwerth ei hun. Felly dipyn o 'supply and demand', neu mwen geiriau erill, cyfnewidfa stoc bach.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan nicdafis » Sad 07 Meh 2003 9:42 am

Ddim cweit yn siwr beth sy gyda ti ma Huw, ond does dim cysylltiad rhwng y "Ffa Coffi" dyn ni'n defnyddio fel arian amgen a ffa coffi go iawn. Metaffor yw e.

Mewn bob system <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=1121&highlight=">arian amgen</a> y peth cyntaf i'w benderfynnu yw enw yr unedau arian newydd. Yn y cynllun dw i'n aelod ohono yma yn Ne Ceredigion (sef <a href="http://teifitaf.org">CYFLE Teifi Taf</a>) dyn ni'n defnyddio "teifiaid". Yn Llanidloes maen yn defnyddio "kites"; yn Aberhonddu "beacons"; ac yn Aberystwyth "toes" (sef <i>dough</i> - pyn dwyieithog!).

Gwerth un teifi yw £1.00. Felly os ydw i'n wneud gwaith cyfieithu i aelod arall CYFLE Teifi Taf, dw i'n ei siarsio T10 (deg teifi) yr awr. Os ydy'r gwaith yn cymryd tair awr, dw i'n ennill T30. Mae e'n sgwennu siec am T30 a dw i'n rhoi'r siec i drysorydd y cynllun. Nawr dw i'n gallu gwario T30 ar bethau neis ;-)

Mantais defnyddio arian amgen yn lle arian y cwîn yw does dim angen i mi gael arian yn y banc cyn i mi ei ddefnyddio (<i>overdrafft</i> am ddim!) - y gwarant dw i'n rhoi yw fy enw da o fewn y gymuned.

Byddai'n werth darllen cwpl o'r <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=1120">dolennau yma</a> i gael mwy o gefndir i sut mae arian amgen yn gweithio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sad 07 Meh 2003 9:45 am

nicdafis a ddywedodd: Mae e'n sgwennu siec am T30 a dw i'n rhoi'r siec i drysorydd y cynllun.


Mantais cynllun arian amgen ar y we yw does dim angen trysorydd, naci sieciau (er bod sieciau ar gael hefyd). Mae lot mwy o reolaeth gyda'r aelodau.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron