Ddim cweit yn siwr beth sy gyda ti ma Huw, ond does dim cysylltiad rhwng y "Ffa Coffi" dyn ni'n defnyddio fel arian amgen a ffa coffi go iawn. Metaffor yw e.
Mewn bob system <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=1121&highlight=">arian amgen</a> y peth cyntaf i'w benderfynnu yw enw yr unedau arian newydd. Yn y cynllun dw i'n aelod ohono yma yn Ne Ceredigion (sef <a href="http://teifitaf.org">CYFLE Teifi Taf</a>) dyn ni'n defnyddio "teifiaid". Yn Llanidloes maen yn defnyddio "kites"; yn Aberhonddu "beacons"; ac yn Aberystwyth "toes" (sef <i>dough</i> - pyn dwyieithog!).
Gwerth un teifi yw £1.00. Felly os ydw i'n wneud gwaith cyfieithu i aelod arall CYFLE Teifi Taf, dw i'n ei siarsio T10 (deg teifi) yr awr. Os ydy'r gwaith yn cymryd tair awr, dw i'n ennill T30. Mae e'n sgwennu siec am T30 a dw i'n rhoi'r siec i drysorydd y cynllun. Nawr dw i'n gallu gwario T30 ar bethau neis
Mantais defnyddio arian amgen yn lle arian y cwîn yw does dim angen i mi gael arian yn y banc cyn i mi ei ddefnyddio (<i>overdrafft</i> am ddim!) - y gwarant dw i'n rhoi yw fy enw da o fewn y gymuned.
Byddai'n werth darllen cwpl o'r <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=1120">dolennau yma</a> i gael mwy o gefndir i sut mae arian amgen yn gweithio.