Hala dy enw llawn a dy enw defnyddiwr (yr un ti'n defnyddio 'ma yn iawn) ata i mewn neges preifat neu ebost. Wna i sefydlu cyfrif yn dy enw, a dweud wrthot ti beth yw'r cyfrinair (cei di newid hwnna unwaith ti edi mewngofnodi).
Wedyn, cer i <a href="http://maes-e.com/arian">wefan y prosiect</a>, mewngofnoda a rhoi glec ar "Fy hafan". Cei di ychwanegu bob math o wybodaeth yno, fel dy gyfeiriad, rhif ffôn ac ati. Dim ond aelodau y cynllun fydd yn gallu gweld y gwybodaeth hwnna.
Cofia bod fersiwn arbrawf yw hon, felly sdim angen defnyddio dy enw go iawn os wyt ti'n aelod di-enw yma - ond bydd hyn yn wneud masnachu gyda pobl eraill bach yn fwy lletchwith, wrth reswm.
Os ydyn ni'n lansio fersiwn go iawn o Ffa Coffi, bydd rhaid i bobl gofrestru gyda'u manylion go iawn - ymddiriedaeth yw rhan pwysig o gynllun arian amgen, ac mae'n annodd rhoi dy ymddiried i rywun sy ddim yn barod i rannu ei (h)enw go iawn.