Cyfrifau ac aelodau ar FfCME

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfrifau ac aelodau ar FfCME

Postiogan nicdafis » Sad 07 Meh 2003 11:18 am

(Diawl, mae'r acronym bach yn anffodus :crechwen:)

Newydd sylweddoli bod na wahaniaeth rhwng "aelodau" FfCME a "chyfrifau". Mae cyfrif yn y cynllun yn gallu cael ei rhannu gan mwy nag un aelod, er enghraifft gan gwpl.

Mae sawl math o gyfrifau, sef Personol, Busnes, Teulu, a Gohebol (? - <i>associate</i>). Ar hyn o bryd, dim ond cyfrifau personol sy wedi'u creu, felly mae gan pob aelod (fi, Corpsyn a Huw hyd yn hyn) ei gyfrif ei hun. Mae'n bosib codi ffî ar gyfrifau i dalu y gweinydd, ond mae eich gweinydd cyfeillgar yn fodlon gweithio am ddim tra bod y peth yn ei ddyddiau cynnar ac yn fersiwn arbrawf. Bydd unrhyw ffîoedd yn cael eu codi mewn Ffa, wrth gwrs.

Ydy hyn i gyd yn swnio yn hollol wallgo? ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Corpsyn » Llun 09 Meh 2003 11:28 am

Faint fydd y ffi ma? dwin brin ar ffa ar y funud :winc:
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan nicdafis » Llun 09 Meh 2003 12:34 pm

Sa i'n gwybod, byddwn ni'n trafod y peth os bydd digon ohonon ni gyda diddordeb i wneud system arian amgen go iawn.

Yn y system LETS ro'n i'n arfer trefnu, ces i fy nhalu T6.00 yr awr am wneud y gwaith gweinyddu. Oedd y credydau yn cael eu tynnu o bob cyfrif (dros cant ohonynt) unwaith y chwarter, a fel arefr oedd pob un yn cyfrannu llai na T2 tuag at costiau rhedeg y cynllun (nid fi oedd yr unig un i gael ei dalu).

Sdim ots os nag oes ffa 'da ti, mae rhaid i rywun gael balans negyddol. Meddylia:
  1. Ar hyn o bryd, mae 4 aelod y cynllun, bob un gyda'r un balans: ff0.00.
  2. Sai neb yn fodlon "fynd i mewn i'r coch", fydd neb yn gwerthu dim byd.
  3. Mae swm ein balansys nawr yn ff0.00 - os wyt ti'n prynu'r CD Blur dw i'n trial cael gwared ohono, bydd fy malans i yn +ff4.00 a bydd dy falans di yn -ff4.00. Felly bydd mwy o "ffa coffi" (sy ddim yn bodoli ond fel blips ar gyfrifiadur) 'da fi, ond bydd mwy o CDs Blur 'da ti. Pwy sy wedi colli?
  4. Bydd "balans y system" yn ff0.00 o hyd. Dyw'r rhif hwn byth yn newid.
  5. I gyd ti wedi wneud yw addo i'r gymuned y byddi di'n gwerthu rhywbeth (eitem neu wasanaeth) am ff4.00 rhywbryd yn y dyfodol.
  6. Dyn ni'n dy drystio di. A dyn ni'n gwybod ble wyt ti'n byw. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Cyfrifau ac aelodau ar FfCME

Postiogan Cardi Bach » Maw 10 Meh 2003 2:54 pm

nicdafis a ddywedodd:Gohebol (? - <i>associate</i>).


cydnabod?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron