(Diawl, mae'r acronym bach yn anffodus )
Newydd sylweddoli bod na wahaniaeth rhwng "aelodau" FfCME a "chyfrifau". Mae cyfrif yn y cynllun yn gallu cael ei rhannu gan mwy nag un aelod, er enghraifft gan gwpl.
Mae sawl math o gyfrifau, sef Personol, Busnes, Teulu, a Gohebol (? - <i>associate</i>). Ar hyn o bryd, dim ond cyfrifau personol sy wedi'u creu, felly mae gan pob aelod (fi, Corpsyn a Huw hyd yn hyn) ei gyfrif ei hun. Mae'n bosib codi ffî ar gyfrifau i dalu y gweinydd, ond mae eich gweinydd cyfeillgar yn fodlon gweithio am ddim tra bod y peth yn ei ddyddiau cynnar ac yn fersiwn arbrawf. Bydd unrhyw ffîoedd yn cael eu codi mewn Ffa, wrth gwrs.
Ydy hyn i gyd yn swnio yn hollol wallgo?