Diolch Alys, mae'r taliad wedi mynd trwyddo. Wnai hala'r CD yfory. Ie, fi bydd yn talu'r cludiant, ond byddai'n bosib i mi werthu CDs am ff3.50 + 50c, swn i'n poeni am fod "mas o boced". Pan o'n i'n wneud eitha lot o waith am "teifiaid" byddwn i'n siarsio am fy mhetrol mewn arian go iawn.
Ond...
Swn i wedi gwerthu'r CD am £4.00 trwy eBay, byddai eBay wedi siarsio 15c am ddechrau'r ocsiwn, wedyn cymryd comisiwn ar y pris terfynnol, wedyn byddai Paypal wedi codi tâl eto set ti wedi defnyddio nhw yn lle hala siec ataf.
(Mae FfCME wedi sefydlu i gymryd 0.02% comisiwn, felly ff0.08 wedi mynd i gyfrif y system. Wna i newid hwnna am nawr, ond byddai'n syniad da yn y pen draw i siarsio tipyn bach - wna i esbonio pam yn y man. Gweithio heno, am arian go iawn.)
Diolch 'to Alys.
Nawr 'te, beth alla i wario fy ffa arno?