Sut mae 'prynu'?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sut mae 'prynu'?

Postiogan Alys » Llun 09 Meh 2003 12:43 pm

Yyyym, sori i fod yn dwp fel bricsen ond sut mae prynu/archebu rhywbeth? Wyt ti'n jyst cysylltu â'r person sy'n cynnig y peth? Does dim lle i glicio arno neu rywbeth i'w ddewis. Wel dim amlwg imi beth bynnag :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Re: Sut mae 'prynu'?

Postiogan nicdafis » Llun 09 Meh 2003 1:22 pm

Alys a ddywedodd:Wyt ti'n jyst cysylltu â'r person sy'n cynnig y peth?


Wyt. Hala ebost at y person sy'n cynnig beth bynnag yw e (ti wedi wneud hynny), i gadarnhau bod y peth dal ar gael (ydy), wneud yn siwr bod y pris yn glir (ff4.00 yn iawn 'da ti?), ac unwaith ti'n cael ymateb o'r gwerthwr, mae rhaid i ti drosglwyddo'r ffa o dy gyfrif di i'w gyfrif e (fy nghyfrif i!) a bydd e'n rhoi'r peth yn y post i ti yfory.

Mae'n tipyn bach fel defnyddio eBay gyda Paypal, ond heb eBay gymryd comisiwn (dwywaith).

Dw i ddim yn gwybod os bydda i'n cael neges awtomatig oddi wrth y system i ddweud dy fod di wedi talu am y CD - gawn ni weld ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Llun 09 Meh 2003 1:24 pm

I drosglwyddo ffa, rho glec ar "Cofnodi Masnachu" - mae hynny yn gyfieithiad erchyll, sori.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Llun 09 Meh 2003 1:25 pm

Falle byddai "Rhoi Ffa" yn well? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Corpsyn » Llun 09 Meh 2003 1:34 pm

Ydi hynny yn meddwl bod rhywyn yn gorfod talu mewn arian i bostio wbath mae nhwn werthu am ffa?
e.e, fyddi di Nic yn gorfod talu y postage i yrru y CD neu be bynnag ti di werthu i Alys?
Ma hyn yn mynd yn erbyn pwynt y ffa rhywffordd tydi!
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan Alys » Llun 09 Meh 2003 1:57 pm

Mae Nic yn dallt mwy na fi, Corpsyn, ond dwi'n credu mai dyna'r drefn yn anffodus - ella fod y "gwerthwr" yn goro talu (go-iawn) am y post ond bydd o neu hi'n cael rhywbeth yn ôl yn y pen-draw, debyg. Jyst inni beidio â delio hefo petha trwm sy'n costio lot i'w postio. :winc:
Wrth gwrs y cam nesa ydi perswadio'r Post Brenhinol i ymuno â chynllun Ffcme. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Alys » Llun 09 Meh 2003 2:07 pm

nicdafis a ddywedodd:rho glec ar "Cofnodi Masnachu" - mae hynny yn gyfieithiad erchyll, sori.

Falle byddai "Rhoi Ffa" yn well

Ti'n iawn dôn i ddim yn hollol siwr beth oedd cofnodi masnachu yn i feddwl ...
Trosglwyddo ffa?
Wedyn bod gen ti "cadarnhau trosglwyddiad"?

Ta waeth dwi wedi'i wneud, ydio wedi gweithio? :winc:

Gyda llaw, mae "alltgofnodi" yn swnio fel bod ni'n mynyddwyr brwd yn gwneud y Monroes neu rwbeth - teipo am "allgofnodi" dwi'n siwr (blydi hel tydwi'n bedantaidd? :rolio: Deud gwir dwi'n jyst licio'r gair Alltgofnodi ...)
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Corpsyn » Llun 09 Meh 2003 2:26 pm

Dwin meddwl bod y post brenhinol yn colli digon o arian fel mai! Fu rhaid ni just byw fo'r gost ma'n siwr.

Dylsa ti roi y gair 'alltgofnodi' yn y seiat hoff air ta Alys.
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan Alys » Llun 09 Meh 2003 2:31 pm

Neis wan, (allt-gofnodi) ond dim ond 4 ohonon ni fasa'n ei ddallt! Rhaid cofrestru i'r cynllun ffcme (sori dwi'n licio'r syniad o gynllun â'r enw ffcme) er mwyn mewngofnodi cyn ichdi fedru gweld Alltgofnodi.
Sori dwi'n mynd off pwynt yr edefyn rwan :rolio: , nôl i weithio ...
Cyn mynd - sut mae'r babi?
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Corpsyn » Llun 09 Meh 2003 2:42 pm

Ma'r babi yn iawn diolch, Weles i o ddoe am y tro cynta. Mae o môôôr ciwt. :D
Lucas Owen neu Luke yn fyr dwin medwl fydd ei enw fo!

Reit, a i yn ol at y pwnc fyd.
Ym... Fedraim meddwl am dim byd ysgafn dwisio'i werthu, ond ai edrych drwy fy mhetha!

Be ydi dy waith di Alys?
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 9:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron