To Bach

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

To Bach

Postiogan 5 miles of piles » Sad 02 Ebr 2005 11:18 am

Dwi'm yn siwr ble i bostio hwn.

Mae ffrind i mi wedi prynnu lap top ac mae hi eisiau rhoi to bach ar
lythrennau.

Does ganddi ddim rhifau ar y dde o'r gyffyrddell na num lock chwaith i ddefnyddio e.e alt 0226 i greu â

Does ganddi ddim word i wneud insert symbol a.y.y.b.

Oes yna ffordd arall o wneud hyn?
Mushroom shirt! Mushroom tie! Mushroom belt! You gota co-ordinate!
Rhithffurf defnyddiwr
5 miles of piles
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 97
Ymunwyd: Llun 25 Hyd 2004 8:33 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan eusebio » Sad 02 Ebr 2005 11:28 am

defnyddio'r botymau alt a fn ac yna mae ynarifau ar y llythrenau (mewn lliw llwyd fel arfer)

alt+fn+147= ô ... ayyb
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan dai mawr » Sad 02 Ebr 2005 4:52 pm

Gallai hi ddefnyddio'r opsiynau ar y bwydlen Insert wedyn Symbol.
Rhithffurf defnyddiwr
dai mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 12:37 pm
Lleoliad: Hwntw ar goll yn Rhuthun

Re: To Bach

Postiogan dafydd » Sad 02 Ebr 2005 5:22 pm

Mae hwn yn gwestiwn cyffredin nawr.

Gweler yr edefyn hwn am drafodaeth ar wahanol ffyrdd o wneud hyn.

Crynodeb
(dwi ddim wedi rhoi manylion ar sut yn union i newid y gosodiadau... dim amser ar hyn o bryd)

    Ar Windows XP SP2 dewiswch y bysellfwrdd Cymraeg a wedyn mae'n bosib defnyddio Alt-Gr + ^ wedyn y llafariad. (ac Alt-Gr + " neu ')

    Ar unrhyw system Windows arall, gosodwch raglen To bach er mwyn hwyluso teipio acennau.

    Ar Mac OS X, gosodwch y bysellfwrdd Cymraeg a mae'n bosib rhoi toeau bach gyda Alt+llafariad.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron