Windows XP yn y Gymraeg

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Windows XP yn y Gymraeg

Postiogan Mali » Iau 07 Ebr 2005 7:51 pm

Mae genai Windows XP yn y Gymraeg ar y gliniadur ers jyst cyn Nadolig , ac mae popeth yn mynd yn iawn :) Ond tybed oes 'na lyfr ar gael ....tebyg i Windows for Dummies ayb .... yn y Gymraeg.
Heb wneud unrhyw chwilio fy hun eto , ond oes 'na Windows XP ar gyfer ......yn Gymraeg?
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Al » Iau 07 Ebr 2005 8:20 pm

Sori dwim yn hoffi fod yn un o'r bobl na sydd yn poen yn din ac yn trio fod yn 'know it all' ond gwelr hwn.

Oh a dwim yn meddwl mi fysa na llyfr llaw 'windows for dummied' yn y gymraeg! Mae'r tebygolrwydd yn fy marn i yn isel iawn :( .
Al
 

Postiogan Mali » Gwe 08 Ebr 2005 3:27 pm

Diolch am y linc Al.
Hmm.....ella fy mod i wedi bod yn rhy uchelgeisiol ynglyn a meddwl fod 'na lyfr swmpus ar gael , ond efo gymaint o bobl ...mewn busnes ac adref yn defnyddio Windows XP yn Gymraeg, siawns fod 'na rhywfath o lyfryn ar gael :?:
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron