rhithfro.com

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

rhithfro.com

Postiogan sbwriel » Sul 08 Mai 2005 2:53 am

Dwi wedi neud lot o ffycyps gyda datblygu rhithfro.com yn ddiweddar - ond o diwedd wythnos nesa ymlaen, fydda i di gorffen pob darn o waith sydd gyda mi ar gyfer coleg, a fy mhrosiect nesaf i fydd rhithfro.com.

Serch hynny, dwi di bwriadu troi rhithfro.com mewn i ryw fath o wasnaeth ehangach na just rhestr a directory o pobl sy'n blogio yn gymraeg. Y problem yw, sa'in gwbod beth fyddai blogwyr cymraeg eisiau ar eu blogiau nhw... unrhyw awgrymiadau???
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Aran » Sul 08 Mai 2005 10:47 am

Pam ydi o'n ddwyieithog ar y funud? Wyt ti'n bwriadu datblygu fo'n wefan ddwyieithog?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Al » Sul 08 Mai 2005 11:39 am

gret, dwin edrych ymlaen i weld hwn, dwin meddwl y ryn peth a aran, pam man ddwyieithog?
Al
 

Postiogan sbwriel » Sul 08 Mai 2005 11:47 am

Dwin bwriadu eu ddatblygu i wefan cymraeg, sydd gyda tudalen o saesneg yn rhoi gwybodaeth cryno am pwrpas y wefan.

Sdim hangups da fi am ei wneud yn ddwyieithog, achos bwriad y safwe yn y bôn yw i helpu blogwyr ac i godi proffeil y blogs yn y 'blogosphere'
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Al » Sul 08 Mai 2005 11:51 am

dwin hoffi y steil ti wedi rhoi i'r enw sef y O yn mynd i fyny, chdi wnaeth wneud y graphics?
Al
 

Postiogan sbwriel » Sul 08 Mai 2005 3:27 pm

aye, falch fod nhwn plesio.
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Aran » Sul 08 Mai 2005 9:07 pm

Wel pob lwc arni, mae wedi bod angen rhyw fath o gyfeirlyfr i'r RhithFro.

Dw i'm yn dallt pam byddai angen tudalen i'w esbonio yn y Saesneg - dw i byth yn dallt beth mae pethe felly yn cyflawni, ond am ryw 'ddrwg gennon ni am darfu ar draws eich We Saesneg'...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan sbwriel » Llun 09 Mai 2005 12:03 am

Dwi ddim wir yn gweld rhoi fersiynau neu dudalenau gwybodaeth saesneg yn rhywbeth negatif, t'mo. Ac yn sicr dwi byth wedi ei weld hi fel rhywbeth ddrwg gennon ni am darfu ar draws eich We Saesneg. Fel dwi'n ei weld, mae'n rhoi'r blogiau cymraeg ar map y rhithfro ac yn cyhoeddi i'r byd 'dyma ni'.

Odd ryw foi ar maes-e wedi cofrestri er mwyn gofyn pa iaith oedden ni'n trafod ynddo, syn ddigon teg. Bydd y tudalenau yma yn safio pobl di-gymraeg rhag e-bostio fi i ofyn cwestiwn tebyg (ac yn arbed fi rhag gorfod eu darllen).
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Aran » Llun 09 Mai 2005 10:00 am

sbwriel a ddywedodd:Dwi ddim wir yn gweld rhoi fersiynau neu dudalenau gwybodaeth saesneg yn rhywbeth negatif, t'mo.


Na, siwr Dduw, dw i'm yn deud fod o'n warth a chywilydd a chyfrifol am golli Ceredigion ayyb... :winc:

- jesd mod i'n methu gweld y pwrpas, a'i fod yn taro fi bob tro bach yn wasaidd. Dwn i'm faint o bobl sydd wedi cofrestru â'r Maes er mwyn gofyn pa iaith ydy hon - fyddai un mewn 2/3 mlynedd ddim yn rhy ddrwg!

Tasai rhywun efo'r brêns i Gwglo 'maes-e what language' byddai'r trydydd canlyniad (ar y funud) yn rhoi cliw digon clir iddyn nhw...

Dw i'n rhedeg/helpu rhedeg nifer o wefannau uniaith Cymraeg, a heb gael yr un ymholiad gan rhywun di-Gymraeg erioed.

Fel dw i'n deud, dio'm yn bwynt anferth. Jesd bod well gen i weld agwedd 'gwneud o yn Gymraeg oherwydd mai dyna beth sy'n naturiol' heb deimlo unrhyw angen esbonio hynny.

Ta waeth, pob lwc arni...!
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan sbwriel » Maw 10 Mai 2005 1:17 am

a. lle ddaeth ceredigion o? :ofn:

b. dyw un person bob 2/3 blynedd syn gofyn am ba iaith mae'r maes yn ei ddefnyddio ddim yn rhy ddrwg, serch hynny, dyw pob person sy'n syrffio'r we ddim mor glefar a pawb, a pha ots yw hi i ofyn?

c. falle dyw'r rhestr o wefannau rwyt ti'n helpu eu rhedeg byth wedi cael yr angen i bobl wybod pa iaith rych chin eu defnyddio - ond dwi'n gwybod am ffaith fod nifer o flogiau cymraeg yn cael pobl o dramor sy ddim yn siarad cymraeg yn edrych ar eu blogiau (dwi di cael rhywyn o jêl yn america yn gweld un fi!). Ac os nad oes pobl dangos dealldwriaeth neu cydymdeimlad tuag at hyn, fydd y cymru a'r gymraeg byth yn gwneud head-way ar y we... rhywbeth ma rhithfro.com yn bwriadu gwneud.

Dyw e ddim yn bwynt anferth rili, ond dwi wir ddim yn gweld problem gyda egluro'r hyn dwi'n neud i'r byd. Does dim hangups gyda fi am wneud rhywbeth i safio'r iaith mewn ffordd mor eithafol - yr unig beth dwin neud yw i cynnig gwasanaeth i'r pobl sydd gyda blogs cymraeg, yn y gobaith fydd hyn yn arwain i bobl ddarllen a chreu blogs cymraeg eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai