sbwriel a ddywedodd:a. lle ddaeth ceredigion o?
Ym... jôc oedd hynna, dyna pam bod yna ar ei ôl... ella bo chdi heb weld yr edafedd llu lle mae pawb yn gweld bai ar bob dim dan haul am golli Ceredigion yn yr etholiad...
sbwriel a ddywedodd:Ac os nad oes pobl dangos dealldwriaeth neu cydymdeimlad tuag at hyn, fydd y cymru a'r gymraeg byth yn gwneud head-way ar y we...
Hyn, i fi, ydy'r canfyddiad anghywir sylfaenol. I'r Gymraeg ffynnu arlein, mae angen i siaradwyr Cymraeg gael digon o ffyrdd gwahanol i'w defnyddio. Os bydd y gwefannau ar gael, ac os bydd siaradwyr Cymraeg yn cael clywed amdanyn nhw, dydy agweddau pobl di-Gymraeg ddim yn gwneud affliw o wahaniaeth wedyn.
Ond o leia bod ni'n gytun ar un pwynt - dio'm yn beth mawr un ffordd ta'r llall. Mater o chwaeth yn anad dim...