Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 10:20 am
gan Aran
sbwriel a ddywedodd:a. lle ddaeth ceredigion o? :ofn:


Ym... jôc oedd hynna, dyna pam bod yna :winc: ar ei ôl... ella bo chdi heb weld yr edafedd llu lle mae pawb yn gweld bai ar bob dim dan haul am golli Ceredigion yn yr etholiad...

sbwriel a ddywedodd:Ac os nad oes pobl dangos dealldwriaeth neu cydymdeimlad tuag at hyn, fydd y cymru a'r gymraeg byth yn gwneud head-way ar y we...


Hyn, i fi, ydy'r canfyddiad anghywir sylfaenol. I'r Gymraeg ffynnu arlein, mae angen i siaradwyr Cymraeg gael digon o ffyrdd gwahanol i'w defnyddio. Os bydd y gwefannau ar gael, ac os bydd siaradwyr Cymraeg yn cael clywed amdanyn nhw, dydy agweddau pobl di-Gymraeg ddim yn gwneud affliw o wahaniaeth wedyn.

Ond o leia bod ni'n gytun ar un pwynt - dio'm yn beth mawr un ffordd ta'r llall. Mater o chwaeth yn anad dim...

PostioPostiwyd: Llun 05 Medi 2005 3:25 pm
gan Al
Aran a ddywedodd:
sbwriel a ddywedodd:Ac os nad oes pobl dangos dealldwriaeth neu cydymdeimlad tuag at hyn, fydd y cymru a'r gymraeg byth yn gwneud head-way ar y we...


Hyn, i fi, ydy'r canfyddiad anghywir sylfaenol. I'r Gymraeg ffynnu arlein, mae angen i siaradwyr Cymraeg gael digon o ffyrdd gwahanol i'w defnyddio. Os bydd y gwefannau ar gael, ac os bydd siaradwyr Cymraeg yn cael clywed amdanyn nhw, dydy agweddau pobl di-Gymraeg ddim yn gwneud affliw o wahaniaeth wedyn.


Dwin meddwl mae Sbwriel di mynd y ffordd orau o gwmpas y busnes dwy ieuthog ma e.e. yn y tudalen saesneg wedi esbonio yn saesneg beth mae'r wefan amdan ac fydd rhaid i chi dysgu'r gymraeg i'w defnyddio. A dyna'r oll.

'Good move'

http://www.rhithfro.com/english.html

PostioPostiwyd: Llun 05 Medi 2005 6:49 pm
gan gronw
cytuno Al, mae wedi cal y tôn yn sbot on -- mae'n ddigon snappy ac ma'r mymryn aggression yn neud i'r iaith swnio'n hyderus, all neb ei ddehongli fel apologia. gwd thing. a falle neith e ddenu ambell un i ymddiddori yn yr iaith...

PostioPostiwyd: Llun 05 Medi 2005 8:03 pm
gan sbwriel
cheers :D

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 7:53 am
gan Aran
Wrth gwrs, dw i dal ddim o blaid unrhyw ddwyieithrwydd di-angen!

Ond os oes rhaid gwneud, wel, dyna patrwm da iawn iddo, chwarae teg.

Un peth bach (ond argian mae lot o bobl yn ei ddweud!) - y darn yno am 'oldest living language in Europe'?

Peswch...Basgeg...peswch... :winc:

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 9:01 am
gan sanddef
Aran a ddywedodd:Un peth bach (ond argian mae lot o bobl yn ei ddweud!) - y darn yno am 'oldest living language in Europe'?

Peswch...Basgeg...peswch... :winc:


Yn wir. Myth yw honni mai iaith fyw hynaf Ewrop yw'r Gymraeg. Gellir dweud yr un peth am iaith Gwlad yr Iâ (sydd ddim wedi newid ers amser y Vikingir) neu'r ieithoedd Baltig (sydd yn agos at yr hen Sanskrit). Ond Euskera (Basgeg) ydy'r unig iaith sydd wedi goroesi o Oes y Garreg (yn wir, mae ei gair am fwyell yn dod o'i gair am garreg!).

Dwi wedi adio rhithfro.com i'm mlogrestr.

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 9:09 am
gan Mr Gasyth
mae pob iaith mor hen a'u gilydd yn y bon - tydyn nhw ddim jest yn ymddangos o unman, ma nhw i gyd yn mynd nol yn y pen draw i'r adeg pan ddechreuodd dynoliaeth siarad. mater o sut mae rhywyn yn mesur (eg, amser ers y newid mawr diwethaf, amser y mae wedi ei siarad ar ei thiriogaeth presennol, amser ers iddi gael ei sgwennu) yw honi fod un yn hyn na'r llall.

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 9:14 am
gan Fflamingo gwyrdd
Aran a ddywedodd:Wrth gwrs, dw i dal ddim o blaid unrhyw ddwyieithrwydd di-angen!


Ond oni ddyle ni fod yn barod i ddarparu (cyn lleied a hyn, o leiaf) o ddwyieithrwydd, er mwyn gallu parhau yn deg, gyda'n dadl barhaol ni (fel maeswyr/Cymry) y dyle ni gael popeth yn ddwyieithog?

Mae'n debyg mai ochr arall y ddadl yw mai gwefan yw hon - lle y gallwn ni fynd i dreulio amser (ayyb), ac nac ydi o'n "wasanaeth" cyhoeddus...

Jysd gofyn...! :?

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 9:28 am
gan sanddef
Mr Gasyth a ddywedodd: mater o sut mae rhywyn yn mesur (eg, amser ers y newid mawr diwethaf, amser y mae wedi ei siarad ar ei thiriogaeth presennol, amser ers iddi gael ei sgwennu) yw honi fod un yn hyn na'r llall.


Mi wn. Am hynny mae ieithoedd y Baltig yn hyn na'r Gymraeg, ond mae'r Fasgeg yn dal yn hyn o lawer.

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 9:55 am
gan sbwriel
Iesu fuck! dwi di newid e er mwyn pobl sydd gyda'r flu.

gobeithio fod e'n plesio nawr