Dylanwad MSN ar blogio

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dylanwad MSN ar blogio

Postiogan Al » Llun 16 Mai 2005 9:24 pm

Gyda mwy o msnwrydd/msnwraigydd yn adnewyddu ei fersiwn o negesuwr sydyn MSN bob dydd mae y syniad o flogio yn dechrau cymud afael arnynt diolch i MSN Space. A rydych yn meddwl fod hyn yn beth da tuag at y cymuned blogio neu ddim? A yw e am atynnu pobl i blogio crap diflas am ei bywydau neu ffeithiau diddorol ei bywyd? Dyma un engrhaifft o berson sydd ddim yn hoff o flogio yn amlwg. Ond eto dwi wedi gweld rhai pobl yn blogio bob dydd ar y spaces ma ond eto malu cachu rwtsh mae nhw yn rhoi arno.Hefyd wedi gweld rhai yn defnyddio y spaces efo y bwriad o defnyddio fe fel web space i'w lluniau.

Ta waeth, trafodwch....
Al
 

Postiogan nicdafis » Llun 16 Mai 2005 10:03 pm

Fydd e ddim yn effeithio dim arna i, gan fod angen cyfrif MSN cyn i ti gael darllen y blogiau, a dw i ddim am agor un. Dw i'n siwr y bydd pethau gwerth darllen yna, ond bydd y rhan fwya yn rwtsh (fel y rhan fwya o flogiau Blogspot/Livejournal, neu unrhyw cymuned ar lein sy'n hawdd a rhad i ymuno â hi).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Mai 2005 10:51 pm

nicdafis a ddywedodd:Fydd e ddim yn effeithio dim arna i, gan fod angen cyfrif MSN cyn i ti gael darllen y blogiau, a dw i ddim am agor un. Dw i'n siwr y bydd pethau gwerth darllen yna, ond bydd y rhan fwya yn rwtsh (fel y rhan fwya o flogiau Blogspot/Livejournal, neu unrhyw cymuned ar lein sy'n hawdd a rhad i ymuno â hi).


a maes-e? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Al » Iau 02 Meh 2005 6:37 pm

mae hwn wedi mynd o ddrwg i waeth pobl, mae townies bangor yn defnyddio fo fel ffordd o brolio ei hunan ac yn defnyddio txt talk ynddo(wbath dwin casau, diwn ei ystyried yn iaith ddiog). Nic bydda yn falch does gen ti ddim cyfrif, mi fysacht yn crio :crio: oes fysacht efo un. Dyma ddwedodd y boi uchodam flogio

Un o idiots msn fi a ddywedodd:Crap!
Dwi meddwl na hwn d peth mwya shit erioed ia. maeo sad siarad efo chdi dy hun a dwi dla yn neud o lol. well bo na rwyn efo wbath i atab dol i ddeutha fi ne fyddai edrahc rel clown wedyn ia lol. wel diw off gem ffotball hwyl fawr
Al
 

Postiogan nicdafis » Gwe 03 Meh 2005 7:40 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:a maes-e? :winc:


I ryw raddau. Dw i'n gwybod o't ti'n jocan, ond pan oedd aelodaeth y maes ar gau wnaeth sawl person sôn bod safon cyffredinol y maes wedi codi. Yn anffodus, mae rhan helaeth o negeseuon di-werth ar unrhyw negesfwrdd yn cael eu postio gan bobl sy ddim yn gyfarwydd â "naws" y lle, sef, aelodau newydd. Mae'n cymryd amser i gymhathu pobl i unrhyw cymuned.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron