Oes rhywun yn defnyddio Haloscan neu debyg?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Oes rhywun yn defnyddio Haloscan neu debyg?

Postiogan Rhys » Maw 17 Mai 2005 4:23 pm

Sgin rhywun brofiad o/barn ar declynnau blogio Haloscan ?

Dwi wedi gweld yr opsiwn 'Trackback' ar sawl blog a meddwl byddai'n nesi cael un ar un o fy mlogiau innau hefyd. Does dim llawer yn gadael sylw ar fy mlogiau :crio: , ond o fy mhrofiad fy hun, dwi'n cyfeirio at sawl blog heb adael sylw arno.

Dyma fi'n mynd i wefan Haloscan a bod yn fyrbwyll fel ydw i, ac yn cofrestru am ddim ar gyfer eu gwasanaeth trackback. Os ydych yn mynd am y trackback, rhaid i chi hefyd gael eu teclyn 'comments' sydd ddim yn broblem gen i.

Gan mod i'n defnyddio Blogger, mae dewis Auto Install, sy'n hynod o gyflym. Wnes i ddim arbed copi o fy templete o flaen llaw ond chwarae teg mae Haloscan yn gwneud hyn drostoch chi os chi eisiau.

Ta beth, rwan dwi wedi colli'r hen sylwadau i gyd oedd wedi eu postio cyn i mi newid - sydd ddim yn broblem anferthol,

Er ei fod am ddim i gael y teclyn, rhaid talu os ydych eisiau e-bost wedi ei anfon atoch bob tro mae rhywun yn gadael neges ($12 y flwyddyn sydd ddim yn llawer dwi'n gwbod)

Ar ôl cyfeirio at y blog o flog arall dwi'n gynnal, wnaeth na ddim byd ddigwydd
:(


Cyn i mi wneud y penderfyniad anferthol o dalu $12 y flwyddyn, ydi rhywun yn defnyddio meddalwedd gwahanol a beth yw eich profiad chi?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron