Yr wyf yn defnyddio rhaglen Adnabod Nodau Gweledol (OCR) yn aml. I gopïo hen lyfrau Cymraeg, gan amlaf, er mwyn eu gwneud yn haws i'w chwilio am ddeunydd achyddol.
Mae'r rhaglen sydd gennyf ar hyn o bryd, Textbridge Pro Milenium, yn weddol hen ac yr wyf am brynu un diweddarach. Ar y cyfan mae Textbridge Pro Milenium wedi bod yn rhaglen dda am drosi print Cymraeg, er bod ambell i frychin ynddo.
A oes gan aelodau'r Maes profiad o ddefnyddio'r rhaglenni OCR diweddaraf ar gyfer ddeunydd Cymraeg ac unrhyw gyngor ynglŷn â'r gorau i'w prynu a'r gwaethaf i'w hosgoi?