Tudalen 1 o 1

Sgarmes.com

PostioPostiwyd: Sad 23 Gor 2005 8:34 pm
gan Al
Annwyl bawb

Y Henoma bydd gwefan rygbicymru.com yn symud i gyfeiriad sgarmes.com. Bydd y wefan ar newydd wedd, yn dilyn gwaith dylunio rhagorol gan Aled o smotyn.com.

Rydym yn mawr obeithio y bydd safon trafod rygbicymru.com yn cael ei barhau ar sgarmes.com. Ein bwriad yw rhoi hwb nid yn unig i rygbi Cymru, ond hefyd i'r we Gymraeg, drwy gynnal trafodaeth fywiog yn iaith y nefoedd am y gem sydd hefyd yn cael ei chwarae yno!

Mae wastad angen aelodau newydd arnom, felly peidiwch ag anghofio anfon y cyfeiriad sgarmes.com ymlaen at eich ffrindiau a theulu.

Diolch

Criw sgarmes.com

sgarmes.com


PS. Diolch i:

Aled AKA Sbwriel am helpu ar y ochr technegol
Cymedolwyr y wefan am aros gyda ni
Dafydd am awgrymu y enw
http://freshhost.net am cydweithio gyda ni
I criw maes-e.com am y pecyn iaith a cefnogaeth

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 10:00 pm
gan Tegwared ap Seion
gai fod mor hy a gofyn pam bo' chi 'di symud?!

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 10:04 pm
gan Al
cei siwr, yn bennaf:

1.enw plaen a anghywir( e.e. rygbi cymru oedd y enw. ond roedd y ni yn son am rygbi yng nghymru ac gweddill y byd)
2.lliwiau all to cock
3.meddwl sa sgarmes yn swnio yn well...

Gwahanglwyf......help...

oh a i eich atgoffa, am y gem rygbi 7 bob ochr

viewtopic.php?t=12827

PostioPostiwyd: Llun 03 Hyd 2005 3:03 pm
gan eifs
crap o le, dwi di cael fy ngwahardd am ddim byd :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 03 Hyd 2005 3:07 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ella bod o am bo ti'n boi sy'n sbamio crap fel ti yn?

Ma'n raid dio'm hyna crap neu sa chdi'm wedi ymaelodi na bod mor offended wan :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 03 Hyd 2005 6:21 pm
gan sbwriel
eifs a ddywedodd:crap o le, dwi di cael fy ngwahardd am ddim byd :rolio:


Sai'n gwbod pam nath hwna ddigwydd, ond don i methu gweld dim ot ti di dweud yn wrong, so ti wedi cael dy ddi-waharddi.

(Sori Al os wnest ti fe am rheswm arall!)

PostioPostiwyd: Llun 03 Hyd 2005 6:27 pm
gan Al
No probs sbwrs

Ie, ma Eifs wedi cael ei wahardd dros dro, oherwydd rhesymau personol(rhwng fo a fi).

Dim byd i neud efoi postio rili(er tydi ei posts heb fod o safon uchel iawn)

Chin oce pobl, dwi ddim yn looney sydd yn gwahardd rhywun yn random

:winc:

PostioPostiwyd: Maw 04 Hyd 2005 5:31 pm
gan eifs
Al a ddywedodd: dwi ddim yn looney sydd yn gwahardd rhywun yn random

:winc:


ti'n looney sydd yn llechio pobl allan o dent 3 yn y bore ganol nos a mynd adref