Tudalen 1 o 1

Dimcwsg.com

PostioPostiwyd: Mer 27 Gor 2005 8:24 pm
gan Al
Be di hanes hwn?
pwy sydd yn ei rhedeg?

pam mae o mor ddistaw?

Re: Dimcwsg.com

PostioPostiwyd: Mer 27 Gor 2005 9:37 pm
gan Rhys Llwyd
Al a ddywedodd:Be di hanes hwn?
pwy sydd yn ei rhedeg?

pam mae o mor ddistaw?


Oherwydd fod Cymru bellach yn ol-Gristnogol AC yn ol-Fodernaidd so di cymry jyst ddim yn cael plant a teuluoedd bellach! 8)

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 12:26 pm
gan Štefanik
Mae dimcwsg.com yn dal i fynd a dal i dyfu ... efallai mai cropian cyn cerdded yw hi!

Mae Rhys yn iawn - mae'r Cymry'n credu bod modd achub yr iaith, erm, heb gael plant! Ie, cysyniad unigryw yn hanes y byd! Ond i'r rheini sy'n hoff o ddynol ryw (h.y. plant) ac am rannu profiadau yna mae dimcwsg yn fforwm ddefnyddiol.

Y job yw cyrraedd y Cymry hynny. Mae dimcwsg wedi buddsoddi mewn hysbeb ar maes-e.com ac yn edrych ymlaen i wedl miloedd yn ymuno. Yn anffodus, dwi'n rhyw amau fod y rhan fwyaf o ddarllenwyr maes-e, heblaw am un neu ddau *peswch cath ddu peswch* unai'n fyfyrwyr neu'n bobl di-blant! Mae nifer o'r gynulleidfa darged hefyd yr union bobl sydd heb neu'n llai tebygol o fynd ar y we - menywod, menwyod heb fod mewn gwaith ac heb acess i gyfrifiadur.

Unrhyw awgrymiadau codi proffeil - wedi bod ar Radio Cymru ddwywaith!

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 2:50 pm
gan Aran
Dros 70 o aelodau a bron yn 1000 o negeseuon - dydy hynna ddim yn ddistaw! Roedd y Maes yn debyg nid nepell yn ôl... :winc:

Mae DimCwsg.com o fewn dwylo da, ac mae'n dyfu'n araf ond yn eithaf cyson, o'r hyn dw i'n ei weld. Dw i'n rhagweld dyfodol da iawn iddi...

A dw i'n rhagweld dyfodol gwell o lawer i sgarmes.com hefyd rwan bod y lliwiau chydig bach yn llai annioddefol... :winc:

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 3:00 pm
gan Al
Aran a ddywedodd:Dros 70 o aelodau a bron yn 1000 o negeseuon - dydy hynna ddim yn ddistaw! Roedd y Maes yn debyg nid nepell yn ôl... :winc:

Mae DimCwsg.com o fewn dwylo da, ac mae'n dyfu'n araf ond yn eithaf cyson, o'r hyn dw i'n ei weld. Dw i'n rhagweld dyfodol da iawn iddi...

A dw i'n rhagweld dyfodol gwell o lawer i sgarmes.com hefyd rwan bod y lliwiau chydig bach yn llai annioddefol... :winc:


ia dyna o ni yn meddwl, mi o ni yn meddwl oedd o reit ddistw, ond dwi wedi cofrestru ac yn gweld cynuddiad cyson yn y negeseuon... . Wan mae'n rhaid i nhw cael ei templed i'r safon :winc:

Re: Dimcwsg.com

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 3:30 pm
gan Macsen
Rhys Llwyd a ddywedodd:Oherwydd fod Cymru bellach yn ol-Gristnogol AC yn ol-Fodernaidd so di cymry jyst ddim yn cael plant a teuluoedd bellach! 8)


Mewn Cymru ol-fodernaidd mae dy blant yn cael ti!

PostioPostiwyd: Gwe 29 Gor 2005 9:28 am
gan Llety Clyd
Nid fforwm swnllyd mo dimcwsg. Mae gennym ni yn dimcwsg ddigon o bethau eraill i feddwl amdanyn nhw mewn bywyd. :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 29 Gor 2005 7:38 pm
gan Dili Minllyn
Llety Clyd a ddywedodd:Nid fforwm swnllyd mo dimcwsg. Mae gennym ni yn dimcwsg ddigon o bethau eraill i feddwl amdanyn nhw mewn bywyd. :winc:


Yn hollol. Dwi wedi sylwi bod rhai o drafodaeth/ffraeon maes-e.com yn para trwy'r nos, pan ydyn ni'r rhieni naill ai'n trio tawelu'r plantos, neu'n ceisio ychydig o gwsg ein hunain.