Rhestr o hoff flogiau
Postiwyd: Mer 17 Awst 2005 1:17 pm
Sori os oes edefyn am hyn yn barod, ac os ydi o'n gwestiwn twp, ond sut ydach chi'n ychwanegu rhestr o'r blogiau 'da chi'n eu darllen ar eich blog, yn dilyn marwolaeth sidebar y rhithfro? Oes 'na ryw fath o fotwm mawr coch dwi'n pwyso i gael rhestr i ymddangos, ta oes angen i fi gael fy nwylo'n fudr a cachu o gwmpas efo'r sgript? Dwi'n defnyddio blogger, gyda llaw.