Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sad 20 Awst 2005 9:36 am
gan sanddef
Unrhyw sylwadau ar sut neu ble gellir gwneud banerau?

PostioPostiwyd: Iau 29 Maw 2007 3:27 pm
gan Tegwared ap Seion
Helo! Wrthi'n gwneud fforwm (Gymraeg) i ffrind, dwi 'di llwytho'r pecyn Cymraeg ond wrth drio newid yr iaith "default" i Welsh a chlicio submit mae popeth dal yn saesyneg. Be dwi'n neud o'i le!? :(

PostioPostiwyd: Iau 29 Maw 2007 5:48 pm
gan Waen
ella dybod eich gosodiadau personol o dan proffeil yn dal yn saesneg?

PostioPostiwyd: Iau 29 Maw 2007 6:09 pm
gan Tegwared ap Seion
Na, mae hwnnw'n Gymraeg ac unwaith dwi'n allgofnodi mae'r fforwm yn troi 'nol i saesneg.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 12:27 am
gan Waen
checiwch chmod y ffeil iaith, h.y. ddylsa y ffeil - lang_main.php bod yn 644, o fewn y folder - lang_welsh gyda'r chmod o 755 ar gweinydd unix.
os ydi'r fforwm 'mond am bod yn un Cymraeg, beth am newid enw'r language folder Cymraeg i lang_english , a scrapio'r un saesneg 'go iawn' :lol:

o.n. - dwin cymeryd dy bod wedi mynd i Administration>General Admin> Configuration, newid y 'drop down' i welsh a wedyn pwyso submit? :?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 8:52 am
gan Tegwared ap Seion
ma' rhifa'r ffeilia' yn iawn, ac ia trio newid configuration dwi 'di bod yn neud ond fod o ddim yn "sdicio" felna! Y peth hawsaf i'w wneud ydi galw'r ffeiliau cymraeg yn lang_english! Jiniys! Dim ots fod y drop-down list mond yn dangos "English" nadi?!

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 9:02 am
gan SbecsPeledrX
Waen a ddywedodd:checiwch chmod y ffeil iaith, h.y. ddylsa y ffeil - lang_main.php bod yn 644, o fewn y folder - lang_welsh gyda'r chmod o 755 ar gweinydd unix.
os ydi'r fforwm 'mond am bod yn un Cymraeg, beth am newid enw'r language folder Cymraeg i lang_english , a scrapio'r un saesneg 'go iawn' :lol:

o.n. - dwin cymeryd dy bod wedi mynd i Administration>General Admin> Configuration, newid y 'drop down' i welsh a wedyn pwyso submit? :?


Di "chmod" yn air dechnegol o ryw fath. Yn y cyfraniad uchod mae'n swnio i mi fel y fersiwn Gymraeg o "whatchamicallit"

chmod

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 9:36 am
gan Waen
:? oops tecnospeek 'to,,,
ystyr 'chmod' (heblaw am paratoi phlem am gob) ydi -

chmod is a Unix command that lets you tell the system how much (or little) access it should permit to a file.

yn yr achos yma - Delwedd


neu mi weli di o ar sustem mac osx wrth fynd i get info ar ffeil -

Delwedd

mae yna mwy o wybodaeth yma i chi darpar geeks ifanc - http://catcode.com/teachmod/