gronw a ddywedodd:dydy rhoi ch, ff ac ati fel dwy lythyren ddim rili'n gywir, ac mae o'n neud y croesair yn anoddach mewn ffordd baffling, gan bo fi wedi arfer meddwl amdanyn nhw fel un llythyren.
Dwi wedi bod yn poeni am hyn. Mae yna fanteision i'w harddangos fel dwy lythyren yn y sgwariau. Mae'n gwneud y rhyngwyneb yn llawer symlach. Mae'n gwneud dyfeisio posau newydd yn lot haws. Mae'n edrych yn well yn fy marn i.
Ond be am hyn fel cyfaddawd:
Rhoi llinnell bychan rhwng y llythrennau (e.e. C-H, D-D a.y.y.b) ar y grid a'u cyfrif fel un llythyren wrth ddynodi hyd yr ateb yn y cliw:
(e.e. 1 Trosedd ddifrifol (10) - (llofruddiaeth).
Wnai sgwennu sgript i drio gwneud hynny pan gai amser.